Ymgyrchwyr tai Penybanc yn cyflwyno eu hachos i’r Cynulliad

Aeth ymgyrchwyr sydd yn gwrthwynebu stad o dai newydd ym Mhenybanc Sir Gaerfyrddin â’u hachos i’r Cynulliad heddiw.
 
Daw’r newyddion wedi i weinidogion Llywodraeth Cymru benderfynu peidio â galw’r cais cynllunio i mewn. Bydd yr ymgyrchwyr lleol yn ymuno â llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Toni Schiavone yn y Senedd yng Nghaerdydd er mwyn gwrthwynebu adeiladu 289 o dai newydd yn yr ardal. Mae’r mudiad iaith eisoes wedi galw ar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau cynllunio newydd ynglŷn ag effaith y broses gynllunio ar yr iaith Gymraeg cyn gynted â phosibl. Daeth ymgynghoriad i ben ar y canllawiau newydd bron i ddwy flynedd yn ôl.
 
Wrth gyflwyno llun o arwydd protest a godwyd ar y safle i’w Haelod Cynulliad lleol Rhodri Glyn Thomas, i’w drosglwyddo i’r Gweinidog Leighton Andrews dywedodd Joy Davies, arweinydd y grŵp lleol sy’n gwrthwynebu’r datblygiad tai:
 
“Ein teimlad ni’n lleol yw y bydd datblygiad o’r maint hwn yn cael effaith negyddol ar y gymuned. Mae Penybanc a Saron yn gymunedau bach, clos gydag ethos Cymraeg cryf. Does dim galw yn ardal Rhydaman am y nifer hyn o dai.  Mae hyn yn sicr o wanhau safle’r iaith yn yr ardal felly. Comisiynwyd adroddiad gan Gyngor Cymuned Llandybie ar Effaith y Datblygiad ar yr Iaith a’r Diwylliant Cymraeg – y casgliad oedd y dylid ei wrthod gan y byddai’n cael effaith negyddol cyffredinol ac y byddai’n bygwth anghenion a buddion yr iaith Gymraeg.”
 

Ychwanegodd llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Toni Schiavone:

“Mae achosion fel hyn yn amlygu gwendidau mawrion yn y gyfundrefn gynllunio, gwendidau sydd yn tanseilio’r gymuned. Cafodd y cais ei wrthod unwaith, ond llwyddodd y datblygwyr i’w wthio fe drwyddo eto. Mae’r ffaith bod y Llywodraeth wedi gwrthod galw’r cais i mewn yn adrodd cyfrolau am eu blaenoriaethau.

“Rydym yn siomedig na wnaeth Leighton Andrews ei hun ddod i dderbyn y llun. Ei resymau dros beidio gwneud yw y gallai'r mater ddod at sylw Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniad arno. Rydym wedi drysu braidd gan fod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio galw'r cais i mewn. Er hynny gobeithio y bydd e'n sylweddoli er iddo gyhoeddi, a hynny mewn cynhadledd lai na milltir o safle datblygiad Penybanc, ei fod yn sefydlu Comisiwn ar sefyllfa'r Gymraeg yn y Sir, fod y ffaith fod y Llywodraeth yn oedi wrth ryddhau polisi TAN20 yn cael effaith niweidiol iawn ar y Gymraeg. Bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn trafod datblygiad o 61 o dai yn ardal Llandeilo ddydd Iau yma, yn yr achos hyn eto does dim ystyriaeth deg i'r Gymraeg gan adael i gymuned arall pryderu am ei dyfodol. Mae'n hen bryd felly i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau newydd, cryfach er mwyn i’r gyfundrefn gynllunio weithio er lles y Gymraeg yn hytrach nag yn ei herbyn. Byddwn ni'n pwysleisio hynny mewn helfa drysor ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun nesaf ble bydd aelodau ifanc o Gymdeithas yr Iaith yn cynnal helfa drysor i ddod o hyd i bolisi cynllunio TAN20.”

 

Y stori yn y South Wales Evening Post 22/05/13 - Calls for stronger planning guidelines to boost language