Ymgyrchwyr yn brwydro'r elfennau yn Llanrwst

Mewn rali yn Llanrwst heddiw dywedodd Cymdeithas yr Iaith mai ymgyrchu llawr gwlad sydd wedi arwain at fesurau i fynd i'r afael ag effaith ail dai a thai gwyliau, a bod angen pwyso nawr am fesurau i ddatrys problemau ehangach.

Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Ymgyrchwyr sydd wedi sicrhau bod grymoedd newydd gan gynghorau i leihau effaith ail dai, ond mae'r broblem tai yn ehangach nag ail dai a thai gwyliau.
"Mae colli pobl ifanc o'n cymunedau am na fedran nhw fforddio byw yno, ac am nad oes gwaith iddyn nhw, yn drasiedi. Rhaid i ni wrthweithio y grymoedd cyfalafol sy'n hwyluso a phrysuro y dirywiad sy'n gwneud ein cymunedau yn llai hyfyw. Rhaid cadw'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ei chadarnleoedd traddodiadol, a datblygu hyder ein pobl i ymestyn y Gymraeg i'r ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brin. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru a'r Awdurdodau Lleol wneud popeth posib i rymuso ein pobl. Gofynnwn i bobl Cymru drwyddi draw godi eu lleisiau yn erbyn y gormes hwn."

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diweddaru ei chynigion ar gyfer Deddf Eiddo i gynnwys mesurau fyddai yn grymuso ac yn buddsoddi mewn cymunedau, trwy ei gwneud yn haws i grwpiau cymunedol brynu tir ac eiddo at ddefnydd cymunedol.

Yn ôl ffigyrau'r canlyniadau'r Cyfrifiad diweddar mae cwympodd nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghonwy o 29.2% yn 2011 i 25.9% yn 2021. Dywedodd Beryl Wynne, un o drefnwyr y rali, bod hyn yn rhannol am bod pobl yn gorfod gadael eu cymunedau:
"Rydyn ni'n colli ein stoc o dai achos nad yw ein pobl yn gallu cystadlu ar y farchnad agored sy’n gweld tai yn fodd o wneud pres, nid yn bennaf fel cartrefi. 'Da ni’n colli ein stoc o dai fel ail gartrefi, fel llety gwyliau neu AirBnBs, ac i bobl gyfoethocach sy’n ffoi o’r dinasoedd. O ganlyniad mae llawer o bobl ifainc yn methu fforddio prynu na rhentu tŷ i gael cartre’n lleol, ac maen nhw’n cael eu gorfodi allan.
Mae canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dangos fod y problemau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg Dyffryn Conwy, Hiraethog ac Uwchaled hefyd yn bygwth ein pentrefi ledled y wlad. Felly mae'n bryd i'r Llywodraeth weithredu."

Mwy o luniau i'w gweld yma