Ymgyrchwyr yn gwersylla dros ddarlledwyr Cymru - BBC Bangor

gwersyll-bbc-bangor.jpgMae ymgyrchwyr wedi galw ar i benaethiaid y BBC dynnu allan o'u dêl toriadau gyda'r Llywodraeth, wrth ddechrau gwersyll tu allan i stiwdio yn y Gogledd dros ddarlledu heddiw (Dydd Llun, 20 Mehefin).Fe ddechreuodd tua dwsin o ymgyrchwyr gwersylla ar safle Bryn Meirion ger Prifysgol Bangor am tua wyth o'r gloch y bore. Mae'r aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud eu bod nhw'n gweithredu i ddangos eu pryder am effeithiau'r toriadau a weithredir gan reolaeth y BBC yn Llundain a Llywodraeth Prydain ar y cyfryngau yng Nghymru.Mewn e-bost at Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, meddan nhw:"Mae'r cyfryngau yng Nghymru o dan fygythiad oherwydd y toriadau i S4C a'r BBC yng Nghymru... Galwn ar i reolaeth y BBC yn Llundain i dynnu allan o'u cytundeb gyda Llywodraeth San Steffan i uno S4C a'r BBC. Mae yna gonsensws eang yng Nghymru bod y cynlluniau yn anghywir ... mae degau o filoedd o bobl wedi gwrthwynebu'r cynlluniau gan gynnwys Archesgob Cymru ac arweinwyr y pleidiau Cymreig."Yn yr hydref y llynedd, fe gytunodd y BBC i gymryd drosodd ariannu S4C fel rhan o ddel sydd yn golygu cwtogi ar gyllideb y sianel o dros bedwar deg y cant mewn termau real. Mae'r gorfforaeth yn Llundain hefyd wedi gofyn i BBC Cymru geisio torri tua ugain y cant o'i gyllideb. Yn ôl adroddiadau yn y wasg, mae cau stiwdio'r darlledwr ym Mangor yn un o'r opsiynau a gai ei ystyried.Meddai Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yn dilyn refferendwm mis Mawrth, mae angen gweledigaeth newydd ar gyfer y cyfryngau i gyd yng Nghymru, nid torri'r ychydig wasanaethau sydd gennym ar hyn o bryd. Rydym yma i roi neges glir i benaethiaid y BBC yn Llundain - nid toriadau sydd eu hangen ond strategaeth a syniadau clir ar gyfer dyfodol llewyrchus i ddarlledu yma yng Nghymru. Nid ydym yn fodlon derbyn dirywiad mewn gwasanaethau fel Radio Cymru, S4C, a BBC Cymru'n gyffredinol - gwasanaethau sydd mor bwysig i bobl Cymru."

Ychwanegodd Osian Jones ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r BBC wedi cyd-gynllunio gyda Llywodraeth San Steffan i gymryd S4C drosodd, ac o ganlyniad mae S4C yn colli ei hannibyniaeth fel sianel. Wrth siarad â 'n haelodau, fe ddywedodd Mark Thompson na allai warantu dim byd o arian ar gyfer S4C ar ôl 2015. Rhwng y toriadau i S4C a Radio Cymru mae darlledu Cymraeg yn cael eu taro'n wael iawn."Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am weledigaeth newydd ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru gan gynnwys BBC Cymru. Rydym yn galw am S4C annibynnol ac arian digonol - mae angen sicrwydd o gyllid mewn deddf gwlad er mwyn osgoi tensiynau rhwng y Gymraeg a'r Saesneg."Ymgyrchwyr iaith yn gwersylla tu allan i BBC Bangor - Golwg360 - 20/06/11Protest yn erbyn toriadau i'r cyfryngau - BBC Cymru - 20/06/11Police called to protest at BBC Wales' Bangor office - BBC Wales - 20/06/11