Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i sylwadau Rhodri Talfan Davies am S4C.
Dywedodd Greg Bevan, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Dyma'r enghraifft ddiweddaraf mewn cyfres o sylwadau sy’n ymddangos fel eu bod rhan o batrwm o ymosodiadau sinigaidd gan reolwyr BBC ar S4C a'r iaith Gymraeg. Pryderwn nad trwy gyd-ddigwyddiad na damwain y daeth cofnodion y cyfarfod yma i’r sylw cyhoeddus. Ein pryder yw bod y BBC yn trio tanseilio S4C er mwyn cyfiawnhau toriadau pellach i'r sianel yn y dyfodol agos. Wrth reswm, mae rhyddhau’r un ystadegyn hwn am gynulleidfa S4C, nad sy'n adlewyrchu’r twf arlein, yn mynd i godi pryderon. Ond beth sydd i’w ddisgwyl wedi i’r sianel ddioddef toriadau anferth i’w chyllideb o ganlyniad i’r fargen frwnt a wnaed rhwng penaethiaid y BBC a’r Torïaid yn Llundain yn ôl yn 2010?
“Mae angen ffynonellau a fframweithiau cyllido amgen i S4C a darlledu Cymraeg yn gyffredinol fel bod rhagor o fuddsoddiad yn ei rhaglenni. Gyda thoriadau o dros 92% i’r grant gan y Llywodraeth i’r sianel, nid yw’n syndod bod y sianel yn wynebu her. Mae angen cynyddu’r buddsoddiad mewn darlledu Cymraeg, yn hytrach na pharhau gyda thoriadau pellach, fel bod modd i S4C ac eraill fynd â darlledu Cymraeg i blatfformau arlein newydd.”
Ychwanegodd: “Ni allwn ymddiried yn y BBC. Fel corfforaeth, mae’r BBC wedi methu â chyflawni dros y Gymraeg mewn sawl maes. Mae nifer o unigolion cefnogol iawn i’r iaith wedi gweithio i’r gorfforaeth ac yn gwneud hynny nawr ond gwelwn fod problem strwythurol sy’n atal y BBC rhag datblygu a chynyddu ei gwasanaethau Cymraeg fel y dylai. Mae angen sefydlu darlledwr Cymraeg aml-gyfryngol newydd sy’n rhydd o’r BBC.”