Ymosodiad Unigryw ar Gymuned ac Addysg Gymraeg – cais i gau Ysgol Carno

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Sir Powys i dynnu’n ol ar unwaith ei fygythiad i gau Ysgol gyfrwng-Cymraeg Carno gan honni y byddai gweithred o’r fath yn “ymosodiad cwbl unigryw ar gymuned ac ar addysg gyfrwng-Cymraeg. Ni allai’r “ysgol dderbyn” arfaethedig (Ysgol Llanbrynmair) gymryd ond llai na hanner y 46 o ddisgyblion o Ysgol Carno ac, o ganlyniad, byddai’r gymuned o blant yn cael ei rhannu o reidrwydd. Yn ymarferol, byddai dros hanner y disgyblion yn cael eu gorfodi allan o addysg gyfrwng-Cymraeg gan fod yr ysgolion i’r dwyrain oll yn gyfrnwg Saesneg neu un ysgol ddwy ffrwd gyda’r ffrwd Gymraeg bron yn llawn. Byddai gorfodi bron 30 o ddisgyblion i fynd i’r dwyrain ac i ffwrdd o addysg Gymraeg hefyd yn cael sgil effaith ar Ysgol Uwchradd Bro Dyfi gan y byddent wedyn yn mynd at Ysgol uwchradd Saesneg Llanidloes.

Mewn neges at y Cyng. Myfanwy Alexander, deiliad portffolio Dysg a Hamdden Powys, dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis “Dwi erioed wedi gweld o’r blaen sefyllfa lle mae chwalu cymuned a gorfodi nifer mawr o ddisgyblion allan o addysg Gymraeg yn bolisi bwriadol gan Gyngor. A ydych chi o ddifri yn credu mai dyma’r ffordd o dawelu beirniadaeth gan ESTYN sydd wedi collfarnu Awdurdod Addysg Powys?”

Dywed Mr Ffransis ymhellach:

“Does dim unrhyw esgus am yr argymhelliad i gau Ysgol Carno gan fod hyd yn oed y gwariant yn ol y pen ar ddigyblion yn llai yma na’r cyfartaledd ar gyfer Powys. Mae’r ffaith fod y niferoedd o ddisgyblion wedi tyfu  mor gyflym dros y 4 blynedd diwethaf ar waethaf bygythiadau’r Cyngor yn dangos gwir ymrwymiad gan y gymuned leol tuag at yr ysgol a dyna ffocws Cymraeg ardal sydd ar y ffin ieithyddol. Erbyn hyn, does dim ond 10 lle gwag yn yr ysgol, a disgylir y bydd hyn yn gostwng i 5 lle gwag yn unig o fewn 18 mis. Galwn arnoch i newid yn syth yr argymhelliad i gau’r ysgol ac i fynd i drafod yn agored gyda rhieni a llywodraethwyr.”