Ymuno â'r alwad i Gymreigio Cyngor Sir Ceredigion

Mae seren bop ac un o drigolion amlycaf Tresaith, Dewi 'Pws' Morris, a pherchenog busnes twristiaeth Cymraeg yn Nhresaith, Dr Dilys Davies, wedi ymuno â galwad Cymdeithas yr Iaith ar i Gyngor Sir Cereidigion alluogi pobl i fyw yn Gymraeg.

Mae'r ddau wedi arwyddo deiseb “Dwi eisiau byw yn Gymraeg” Ceredigion, sydd yn galw yn benodol ar y Cyngor Sir i weinyddu yn ddwyieithog; i ddarparu gwasanaethau hamdden i bobl ifanc yn ddwyieithog a sicrhau, drwy fesurau penodol, fod tai ar gael i bobl leol.

Wrth arwyddo'r ddeiseb dywedodd y canwr a'r bardd, Dewi Pws Morris:
 
“Dwi'n byw yma drwy'r flwyddyn, dyma fy nghartref i. Mae'n lle gret i fyw, ond dros y blynyddoedd mae wedi troi yn bentref gwyliau a bach iawn o bobl o'r ardal sydd yn byw yma. Dwi wedi bod yn llafar fy marn am dai haf erioed am fy mod yn gweld yr effaith maen nhw'n cael ar bentrefi bach fel Tresaith. Mae dyletswydd arnon ni i gyd i wneud ein rhan yn ein hardaloedd wrth gwrs ond mae sawl peth penodol gall y Cyngor Sir yn unig eu gwneud er mwyn sicrhau fod cyfle i bobl leol gael cartref yn yr ardal, ac mae angen i ni bwyso arnyn nhw i wneud."
 
Ymunodd Dilys Davies, perchennog Canolfan Wyliau a Siop y Traeth yn Nhresaith, ag e i arwyddo'r ddeiseb. Meddai hi:
 
“Mae wedi bod yn bwysig i ni redeg y busnes drwy'r Gymraeg, nid am bod raid neu ein bod yn teimlo dyletswydd i wneud ond am mai dyna iaith naturiol yr ardal. Er mai yn y diwydiant twristiaeth rydyn ni'n gweithio, Cymraeg yw iaith naturiol y ganolfan a'r siop ac rydyn ni'n hybu'r economi Gymraeg a Chymreig yn lleol drwy bopeth rydyn ni'n gwneud. Mae'r ffaith ein bod ni'n gweithio drwy Gymraeg yn cael dylanwad bositif ar y bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw hefyd – yn gwsmeriaid ac yn bobl sydd yn ein cyflenwi ac yn gweithio i ni."
 
Ychwanegodd Hywel Griffiths, Cadeirydd y Gymdeithas yng Ngheredigion:
 
“Mae agwedd y Cyngor Sir yn peri pryder. Er i ni weld gostyngiad sylweddol yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn y sir mae fel petai'r Cyngor heb sylweddoli arwyddocad hynny. Mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan y Cyngor yn ddiweddar eu neges oedd nad oedd angen pryderu, ond dal ati. Os mai dal ati fel maen nhw'n gwneud nawr fyddan nhw yna parhau i ddisgyn fydd niferoedd y siaradwyr a chymunedau Cymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i gydnabod fod yna argyfwng ar ein cymunedau ac i weithredu i fynd i'r afael a hynny. Mae angen i Gyngor Ceredigion wneud yr un peth.
“Mae'r ddeiseb yn nodi'n glir yr hyn rydyn ni am i'r Cyngor wneud felly rwy'n gofyn i bawb ymuno gyda ni yn ein galwad – nid yn unig drwy arwyddo'r ddeiseb ond drwy ymuno gyda ni i ymgyrchu. Byddwn yn galw ar y Cyngor i ymateb wrth gyflwyno'r ddeiseb – ac yn gwahodd pobl ar draws Ceredigion i fod yn rhan o hynny, rydyn ni'n ymgynghori ar ein polisiau cenedlaethol yn y Maniffesto Byw ar hyn o bryd, ac yn casglu llu o enghreifftiau o ddiffyg mewn gwasanaethau Cymraeg felly gall pawb chwarae ei ran.”
 
Mae modd arwyddo'r ddeiseb yma - am fwy o wybodaeth: bethan@cymdeithas.org / 01970 624501