Ysgol arall ym Môn dan fygythiad – galw am her gyfreithiol

Mae mudiad iaith wedi galw am her gyfreithiol i gynnig Cyngor Ynys Môn i gau Ysgol Talwrn.      

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith  

“Rydym wedi ein siomi, ond heb ein synnu, gan ymdrechion swyddogion y Cyngor i geisio gwthio trwyddo gynnig arall i gau ysgol. Maen nhw’n gwrthod dilyn prosesau statudol yn y cod cenedlaethol ac felly gobeithio gwelwn ni her gyfreithiol gan y gymuned.”