Ysgolion Ardal Llangefni – Galwad am gydweithio yn lle rhannu cymunedau

Mae Cymdeithas yr Iaith yn siomedig fod Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn wedi penderfynu heddiw cychwyn Ymgynghoriad Statudol ar gynnig negyddol unwaith eto i geisio cyllid ar gyfer addysg yn Llangefni trwy gau ysgolion gwledig. Yr oedd y Gymdeithas wedi galw ar y Pwyllgor Gwaith yn hytrach i ddefnyddio'r cyfnod o chwe wythnos i greu consensws. Mae cytundeb bod angen buddsoddiad yn Llangefni, ond mae hefyd rhoi sicrwydd hefyd i'r ysgolion pentrefol ym Modffordd a Thalwrn.

Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: "Yn anffodus, gan fod Cyngor Môn wedi gwneud yn glir eu bod nhw'n ceisio pob dull i sicrhau eu bod yn cau'r ysgolion, mae'n anochel bydd cwyn yn erbyn y Cyngor ar ddiwedd y broses am beidio â chydymffurfio â'r cod cenedlaethol. Bydd hyn yn gohirio'n fwy eto'r buddsoddiad sydd ei angen yn Llangefni ac yn parhau'r ansicrwydd i gymunedau Bodffordd a Thalwrn. Gofynnwn i Lywodraethwyr y pedair ysgol ddod ynghyd yn awr i roi arweiniad o geisio cyrraedd consensws."

Ym mis Mai'r llynedd, tynnodd y Cyngor ei gynigion i gau'r ysgolion yn ôl wedi ymyrraeth gan y Gweinidog Addysg. Mae'r cod trefniadaeth ysgolion newydd, a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2018, yn sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Mae Ysgol Bodffordd yn rhif un ar restr ysgolion gweledig sydd i fod i gael eu gwarchod yn ôl cod Llywodraeth Cymru. Mae Ysgol Bodffordd dros gapasiti ac Ysgol Talwrn o fewn 8% i gapasiti.