Ysgolion Ynys Môn - Amser Diolch

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn heddiw i ddiddymu'r penderfyniad i gau ysgolion Bodffordd, Talwrn a Biwmares.

Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith:

"Mae'r swyddogion a'r cynghorwyr wedi bod yn ddewr yn ymddiheuro'n agored oherwydd eu bod, yng ngeiriau'r Prif Weithredwr Dr Gwynne Jones, 'am barchu'r cymunedau yr ydym yn cydweithio â nhw'.

"Gallasai'r Pwyllgor Gwaith fod wedi penderfynu oedi'n unig neu ailgyflwyno eu cynigion, ond diolchwn eu bod wedi gwneud y peth iawn o ddiddymu'r penderfyniadau a rhoi sicrwydd i'r cymunedau y byddai pob ystyriaeth yn y dyfodol o dan egwyddor y Côd Trefniadaeth newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig.

Ychwanegodd:

"Yr ydym heddiw yn diolch yn arbennig hefyd i'r Cynghorydd Carwyn Jones am ei gyfraniad at y drafodaeth heddiw. Yn ei eiriau ef ‘rhaid i bawb symud ymlaen efo'i gilydd yn awr. Dyma gyfle llechen lân, heb densiwn. Nid brwydr ddylai hyn fod.’ Mae Cymdeithas yr Iaith yn barod iawn i fod yn rhan adeiladol o'r drafodaeth ar gyfer ysgolion ardaloedd Llangefni, Seiriol ac Amlwch gan gredu'n ffyddiog fod modd canfod atebion o fodelau cydweithio sydd yn creu unedau addysgol cryf, yn sicrhau arbedion ac yn harneisio holl egni rhieni a chymunedau sydd wedi dangos y fath ofal am ddyfodol eu hysgolion a'u cymunedau.

"Yn wir, hoffem fel Cymdeithas ddiolch o galon i'r cymunedau hyn sydd wedi gosod esiampl i gymunedau gwledig Cymraeg ledled y wlad, ac yn enwedig esiampl i'w plant. Yn olaf, mae'n gwbl briodol i ni fel Cymdeithas ddiolch i'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams gan fod ei pharodrwydd hi i ymchwilio o ddifri i gŵyn wedi anfon neges glir i awdurdodau lleol ledled Cymru y bydd yn rhaid iddynt gymryd o ddifri'r Côd newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig. Fe gawn ni gyfle i ddiolch  yn bersonol iddi mewn cyfarfod bore fory rhwng y Gweinidog a'i swyddogion a dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith."