"Gwisgo Hen Bolisi Mewn Dillad Newydd" - Barn Cymdeithas yr Iaith ar strategaeth addysg Cyngor Ynys Môn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Adran Addysg Cyngor Ynys Môn o geisio ail-wisgo hen bolisi o gau ysgolion gwledig mewn dillad newydd. Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd (ac yn dod i ben ddydd Mercher nesaf 17/5) ar Strategaeth ddrafft "Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg" sydd â bygythiad ymhlyg i gau hyd at 17 o ysgolion cynradd sydd â llai na 91 o blant ynddynt.

Ar ran y Gymdeithas, dywed Ffred Ffransis:
"Mae hon yn ddogfen ddiddychymyg a digalon gan y Cyngor, a'r prif nod yw trio gwthio unwaith eto eu hobsesiwn i gau ysgolion gwledig Cymraeg. Yma maen nhw'n gwisgo hen bolisi a rhagfarn mewn dillad newydd gan honni mai ceisio lleihau ôl-troed carbon yw'r nod oherwydd adeiladau diffygiol y mae'r Cyngor ei hun yn euog o beidio a buddsoddi ynddynt, a thrwy honni eu bod yn ymateb I agenda gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru sydd ei hun wedi rhoi llawer o'r ysgolion ar Restr Ysgolion Gwledig i'w gwarchod trwy fod rhagdyb o blaid eu cadw ar agor.
"Yn anhygoel, honna'r Cyngor eu bod yn gweithredu i ddatblygu'r Gymraeg trwy danseilio cymunedau gwledig Cymraeg wrth gau'r ysgolion. Mae'r Cyngor yn tristau fod demograffeg y cymunedau'n newid trwy fod llai o bobl ifainc, ac eto am gau ysgolion fel ei bod yn llai tebyg byth y bydd teuluoedd ifainc yn ymgartrefu yn y cymunedau hyn heb ysgol i'w plant. Byddwn fel Cymdeithas yn anfon ein hymateb llawn i'r strategaeth ddrafft at ysgolion a Chynghorau Cymuned yn ardaloedd gwledig yr ynys, a byddwn yn cefnogi pob cymuned sydd am frwydro dros eu dyfodol"

Mae ymateb Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad i'w weld yma