Ysgrifennydd Addysg yn rhoi diwedd ar ansicrwydd polisi ysgolion gwledig

Mewn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith heddiw (dydd Mercher, 25 Medi), rhoddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, ddiwedd i unrhyw ansicrwydd ynghylch gweithrediad Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr ysgrifennydd yn y cyfarfod gyda’r mudiad bod “rhaid” ystyried pob opsiwn arall cyn cau ysgol gwledig sydd ar restr y Llywodraeth yn y Cod mewn unrhyw broses ymgynghori, ac nad “ymarfer ticio bocs” oedd hyn.

Ychwanegodd un o brif swyddogion yr adran addysg bod “rhagdybiaeth yn erbyn cau yn golygu beth mae’n ei ddweud - rhagdybiaeth yn erbyn cau.”

Daw y cyhoeddiad ddiwrnod cyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu Cyngor Ceredigion drafod penderfyniad diweddar cabinet Ceredigion i barhau gydag ymgynghoriad ar gau pedair o ysgolion gwledig yn y sir.

Dywedodd Ffred Ffransis o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

“Mae cred ymhlith nifer o Awdurdodau Lleol y gallen nhw fynd ati i gynllunio o'r dechrau i gau ysgolion gwledig Cymraeg, a bod dim ond rhaid iddyn nhw fynd trwy’r broses o nodi rhai opsiynnau amgen ymlaen ac ystyried effaith cau ar y gymuned ac ar yr iaith mewn modd tocenistaidd.

“Ond, rydym yn falch o gyhoeddi i Lynne Neagle fod yn hollol eglur yn ei hymateb i ni bod rhaid i awdurdodau lleol ddechrau gyda rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig sydd ar y rhestr swyddogol o ysgolion i’w gwarchod.

“Byddwn yn tynnu sylw Awdurdodau Lleol at y cyfarwyddyd clir yma.”