Lansiad Taith: Angen Cynghrair Cymunedau

Lansiodd Dafydd Iwan daith hanesyddol ymgyrchwyr iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Bydd 'ambiwlans' arbennig Cymdeithas yr Iaith yn mynd ar daith Tynged yr Iaith - sydd wedi'i enwi ar ôl darlith enwog Saunders Lewis - ar hyd yr wlad gan ymweld â nifer o gymunedau. Lleoliad cyntaf y daith fydd maes Sioe Ogwen a bydd yn daith yn parhau i leoliad ar draws y Gogledd cyn mynd am Bowys, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ar ei ffordd i faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg. Bydd y daith hefyd yn ymweld â Phontrhydfendigaid yn ystod Gwyl 50 ar benwythnos y 13eg a'r 14eg o Orffennaf.
 
Un o fwriadau'r daith, sydd yn rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymrage, yw i sefydlu cynghrair o gymunedau Cymraeg fydd yn gallu lobio dros ddyfodol yr iaith ar lefel leol.
 
Meddai Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
“Rydym i gyd yn gwybod fod y Gymraeg yn dirywio fel iaith gymunedol am nifer o resymau ac er fod yr hanner can mlynedd diwethaf o ymgyrchu wedi golygu fod rhyw fath o ddyfodol i'r Gymraeg mae her yn ein wynebu nawr i sicrhau mai dyfodol fel cyfrwng naturiol ar lawr gwlad yw hi.
 
“Mae gan bob cymuned yng Nghymru botensial o fod yn gymuned Gymraeg ond dim ond drwy uno gyda'n gilydd fel cymunedau y gallwn ni siarad ag un llais yn erbyn y bygythiadau yma i'n cymunedau a thros weledigaeth amgen.”
 
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Hoffwn felly ymestyn cyfle i bawb sydd yn poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i ymuno â ni ar y daith. Mae angen gwaith yn ein cymunedau er mwyn adnabod yr heriau go iawn a gweld beth gallwn ni wneud amdanynt.”