Carchar am 35 diwrnod i Jamie Bevan

Cafodd Jamie Bevan ei ddedfrydu i 35 diwrnod yn y carchar gan ynadon Merthyr Tudful y bore yma am wrthod talu dirwy a orchmynnwyd iddo ei dalu mewn gohebiaeth uniaith Saesneg.

Cafodd Jamie Bevan o Ferthyr Tudful ei erlyn am iddo wrthod talu dirwy a osodwyd arno am ei ran yn yr ymgyrch yn erbyn toriadau i S4C. Defnyddiodd yr achos i brotestio yn erbyn yr ohebiaeth uniaith Saesneg oddi wrth y llysoedd.

Daw'r newyddion wedi'r cyhoeddiad am farwolaeth Eileen Beasley, un o'r ymgyrchwyr cyntaf i fynd i'r llysoedd er mwyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg.

jamie-carchar1.jpg
 
Daeth 50 o bobl i gefnogi Jamie tu allan i'r Llys.

 

Dywedodd Jamie Bevan, sydd yn 36 mlwydd oed ac yn dad i bedwar o blant, wrth yr ynadon:

"Dros y flwyddyn a hanner diwethaf rydw i wedi dilyn dulliau hollol gyfansoddiadol wrth wneud cwynion am y gwasanaeth Cymraeg pytiog a thameidiog sy'n dod o'r llysoedd a'r system gyfiawnder. Dwi wedi derbyn ymddiheuriad ar ôl ymddiheuriad gyda'r sicrhad bod gweithdrefnau yn cael eu rhoi mewn lle i wneud yn si?r nad yw'r camgymeriadau, fel y gelwir, yn digwydd eto. Ond parhau mae'r llythyron uniaith, y gwasanaeth ffon gydag opsiwn Cymraeg sydd yn arwain 'nunlle, y wawdio a'r amharch gan staff y llysoedd, yr heddlu a'r staff diogelwch.

"Yn ôl eich cynllun iaith, does dim hawl i Gymro gael gwrandawiad o flaen Llys Cymraeg. Mae'n dweud y byddwch yn trio darparu llys Cymraeg ond os na allwch fe fydd cyfieithydd yn cael ei ddarparu.

"Mae siaradwyr Cymraeg dan anfantais enfawr wrth dderbyn gwrandawiad trwy gyfrwng cyfieithydd gan nad ydy cyfieithydd yn galluogi'r unigolyn i gyfathrebu yn uniongyrchol a'i farnwyr/ Yn wir, mae llawer o gyfreithwyr yn cynghori eu cleientiaid i beidio â mynd am achos Cymraeg gan eu bod yn cydnabod yr anfantais yma. Sefyllfa hurt yn y Gymru fodern.

"Mae eich cynlluniau iaith hefyd yn gosod mas strategaeth cyflogaeth yn seiliedig ar broffil iaith ardal. Hynny ydy, bydd cyflogi siaradwyr Cymraeg i alluogi llys i ddarparu gwasanaeth Cymraeg yn dibynnu ar y canran o siaradwyr lleol a mympwy rheolwr y llys. Sut allwch gyfiawnhau bod Cymro o Ferthyr yn derbyn gwasanaeth diffygiol tra bod rhywun arall mewn rhan arall o'r wlad yn derbyn gwasanaeth gwell. Mae gan Gymry ym mhob rhan o Gymru hawl moesol i ddefnyddio'r Gymraeg yn ei llawn ystyr.

"Does dim bwriad gen i gydffurfio. Does dim bwriad gen i i dalu'r un ceiniog o'r dirwy serch y ffaith y gallaf wneud yn hawdd yn ariannol. Gwnewch fel y mynnwch gyda fi. Dwi'n derbyn yn llawen unrhyw ganlyniad."

Mewn datganiad o gefnogaeth a gytunwyd gan yr AS Llafur Susan Elan Jones a Llywydd Plaid Cymru Jill Evans, dywedon nhw:

"Rwyf yn awyddus i ddatgan fy nghefnogaeth i Jamie Bevan yn ei achos llys heddiw ym Merthyr yn dilyn ei weithred yn yr ymgyrch dros achub S4C. Mae'r ffaith bod Jamie wedi derbyn gwys Saesneg dwywaith a gwrandawiad Saesneg yn gwbl annerbyniol. Mae dyletswydd ar wasanaeth y llysoedd i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Rwy'n falch bod Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i'r sefyllfa. Mae'n bwysig iawn bod y Comisiynydd yn dangos ei bod yn gallu sicrhau hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg a bod Mesur Iaith 2011 yn gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pob dydd pobl Cymru."

Anfonwch neges o gefnogaeth iddo trwy'r post:

A9459CFBEVAN
Carchar Caerdydd
HMP Caerdydd
1 Ffordd Knox
CAERDYDD
CF24 0UG