Trydar yn Gymraeg!

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r newyddion heddiw bod Twitter wedi galluogi defnyddwyr i gyfieithu ei wasanaethau i'r Gymraeg.

Croesawodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, y newyddion:

"Mae'n newyddion gwych. Mae nifer o'n haelodau a chefnogwyr wedi bod yn annog Twitter i alluogi gwasanaeth Cymraeg ers tro. Nawr mae angen cymaint o bobl â phosib i helpu cyfieithu'r derminoleg i'r Gymraeg fel bod y gwasanaeth yn rhedeg cyn gynted â phosib. Os yw'r Gymraeg i fyw, mae rhaid sicrhau ei bod yn weledol ym mhob rhan o'n bywydau. Rydyn fel mudiad wedi gweld awydd pobl i gyfrannu i ddatblygiadau ar-lein drwy ein gwasanaeth teledu ar-lein, sianel62.com; byddwn ni'n parhau i annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg arlein.

"Er bod sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o ddatblygiadau newydd ar-lein yn bwysig, mae'n cymunedau Cymraeg yn y byd go iawn o dan fygythiad mawr. Bydd ein haelodau yn dal i ganolbwyntio arnyn nhw ac ymgyrchu drostynt hefyd."

Fe fydd darllediad byw nesaf sianel62.com am 8yh, Dydd Sul Medi 23ain.

Rhagor o wybodaeth am gyfieithu Twitter: http://translate.twttr.com