Wedi i gorff rheoleiddio benderfynu gwahardd hysbyseb rhag cael ei ddangos ar S4C, darlledodd Sianel 62 yr hysbyseb nos Sul.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r ffaith fod hysbyseb gan Gymdeithas y Cymod yn caei ei wahardd rhag cael ei ddarlledu am ei fod yn cael ei ystyried yn 'wleidyddol' ac yn 'ddadleuol' yn dangos fod angen sianeli a chyfryngau amgen. Nid ydym fel mudiad yn amharod i ddatgan ein bod yn fudiad gwleidyddol sydd yn arddel ac annog pobl i herio a gofyn cwestiynau ym mhopeth a wnawn, a'n bod yn cefnogi mudiadau eraill sydd am wneud yr un peth.
Rydym yn gresynu fod y cyfryngau cenedlaethol yn cael eu gorfodi i beidio bod yn ddadlennol. Bwriad Sianel 62 yw i gynnig platfform ar gyfer deunydd heriol ac amgen ac rydym yn falch fod mudiadau eraill yn gallu ei ddefnyddio at y bwriad hwnnw."
Sianel 62 yw sianel deledu ar-lein Cymdeithas yr Iaith, a lansiwyd ddechrau eleni. Ymysg yr arlwy ar y darllediad oedd yr hysbyseb gan Gymdeithas y Cymod, darllediad drama I'r Gad (drama arbennig i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith), a ffilm o Gynhadledd Ryngwladol Ymgyrchu dros Ieithoedd tan Ormes.