Gweithredu uniongyrchol dros y Gymraeg yn y Cynulliad

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystyried gweithredu’n uniongyrchol yn erbyn Plaid Cymru yn sgil agwedd y blaid tuag at bolisi iaith Gymraeg y Cynulliad, cyhoeddodd y mudiad heddiw. 

Wythnos ddiwethaf, fe bleidleisiodd mwyafrif Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn erbyn gwelliant i’r Bil Ieithoedd Swyddogol a fyddai wedi sicrhau bod y Cynulliad yn gweithredu'n gyson â'r dyletswyddau a'r safonau y bydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn disgwyl i gyrff eraill gydymffurfio â nhw. Pleidleision nhw yn erbyn cyhoeddi’r Cofnod o sesiynau llawn yn Gymraeg ar yr un pryd â’r fersiwn Saesneg, er i’r Cynulliad weithredu’r polisi hwnnw hyd at 2009.  

Mae Senedd y Gymdeithas wedi awdurdodi gweithredu’n uniongyrchol heddychlon yn erbyn Plaid Cymru, ond mae gweithredu ar y penderfyniad wedi ei ohirio nes bydd ymateb gan y blaid.

Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Galwn ar Aelodau Cynulliad Plaid Cymru i gymryd y cyfle i unioni’r cam a wnaed wythnos ddiwethaf drwy sicrhau y bydd Cynllun iaith y Cynulliad yn gweithredu statws cenedlaethol llawn i’r Gymraeg. Dyna’r ffordd i ddangos yr arweiniad clir ar statws yr iaith Gymraeg a democratiaeth dwyieithog y dylai Plaid Cymru fod wedi ei ddangos yn ystod y bleidlais ar y Bil Ieithoedd Swyddogol. Mae canlyniad y bleidlais honno yn peryglu un o brif gonglfeini Mesur Iaith y Gymraeg 2011 - sef bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru."

Ychwanegodd Sioned Haf, Is-Gadeirydd y Gymdeithas:

“Rydyn ni wedi cymryd y penderfyniad yma i ddangos difrifoldeb ein siom a’n hanghrediniaeth bod Plaid Cymru wedi cefnu ar un o’i phrif egwyddorion; sef sicrhau cydraddoldeb i'r iaith Gymraeg. Rydym wedi’n siomi’n ddirfawr na wnaeth Plaid Cymru gymryd y cyfle hwn i  sicrhau bod ein prif gorff democrataidd yn rhoi neges glir mai ystyr statws swyddogol yw defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd gyda'i gilydd . Rydym yn pryderu'n  fawr am safon ac ansawdd y drafodaeth a gafwyd ar y Bil. Ac mae'r diffyg asgwrn cefn a ddangosodd Plaid Cymru ar y mater hwn yn codi cwestiwn am allu’r blaid  i ymateb i’r her sylweddol sy’n wynebu’r Gymraeg yn ein cymunedau. Her a ddaw hyd yn oed yn gliriach pan gyhoeddir canlyniadau'r Cyfrifiad.”