Bydd nifer o gyfarwyddwyr addysg, cynghorwyr arweiniol, prifathrawon, llywodraethwyr ac ymgyrchwyr ymhlith y rhai sydd yn dod at fforwm a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mangor heddiw i drafod llunio system newydd o gyllido a rheoli ysgolion yng Nghymru.
Cyn-gadeirydd Pwyllgor Craffu Addysg y Cynulliad, Gareth Jones, fydd y siaradwr gwadd a fydd yn cyflwyno papur i'r fforwm a fydd yn galw am ffordd radical o fynd i'r afael â chyllido integredig i addysg ac hyfforddiant ar gyfer dalgylch pob ysgol uwchradd. Mae cytundeb cyffredinol nad yw'r drefn bresennol yn gweithio a'i bod yn dieithrio rhieni ac yn tanseilio'r cymunedau y mae i fod i'w gwasanaethu.
Mae'r fforwm agored yn cael ei gynnal am 2pm ar ddydd Mawrth 13eg o Dachwedd yn ystafell Rhos ar Safle'r Fenai ym Mhrifysgol Bangor, ac yn cael ei agor yn swyddogol gan y Cyng. Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd.
Esboniodd Ffred Ffransis, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Addysg
"Mae'r drefn gyllido a rheoli sydd gennym ar hyn o bryd wedi ei seilio ar syniadaeth llywodraeth Thatcher yr 1980au, a oedd yn ceisio hybu cystadleuaeth a chreu marchnad. Mae hyn wedi bod yn drychinebus, yn enwedig mewn ardaloedd gweledig Cymraeg ble mae angen am gydlynu adnoddau. Mae Cynghorwyr wedi bod dan bwysau i wneud penderfyniadau nad oeddynt yn eu ffafrio, ac mae rhieni a chymunedau lleol wedi eu halltudio. Dros ddegawd wedi datganoli mae'n hen bryd i ni ddyfeisio system newydd integredig ar gyfer cyllido a rheoli ysgolion, yn seiliedig ar ein traddodiadau a'n hamcan am gydweithio."