"Dim oedi" - safonau iaith newydd

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i Lywodraethau Cymru a Phrydain beidio ag oedi wrth weithredu ar y safonau iaith newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd Sian Howys, llefarydd y Gymdeithas ar hawliau:

"Mae'n hen bryd i bobl ddechrau gweld y gwahaniaeth a'r gwasanaethau gwell dylai ddod gyda deddfwriaeth newydd. Wedi'r cwbl, cafodd y Mesur ei basio dwy flynedd yn ôl. Dyn ni wedi cael pedair blynedd o ymgynghori ar y ddeddfwriaeth a'r dyletswyddau hyn, a chafwyd cannoedd o ymatebion. Yn fwy na hynny, mae pobl yn dal i ddod atom i nodi nad ydyn nhw wedi gallu cael gwasanaeth Cymraeg, felly yn amlwg mae yna ddiffygion sydd angen mynd i'r afael â nhw. Wrth i fwyfwy o blant dderbyn eu haddysg drwy'r Gymraeg mae angen sicrhau nad yw'r Gymraeg yn aros wrth gatiau'r ysgol. Nid oes cyfiawnhad dros ragor o oedi felly.Rydym yn gobeithio y bydd Leighton Andrews yn gweithredu'n syth i gael y safonau ar y llyfr statud a pheidio â chaniatáu i Lywodraeth Prydain oedi rhag eu cyflawni.

“Ysgrifennon ni at yr Ysgrifennydd Gwladol David Jones yn ddiweddar i ofyn am sicrwydd y bydd e'n rhoi ei gydsyniad er mwyn sicrhau bod adrannau Llywodraeth Prydain yn dod o dan y safonau newydd hyn. 'Dyn ni heb dderbyn ymateb eto. Nid ydym yn deall pam nad yw wedi datgan ei fwriad i gefnogi'r safonau newydd.

Ychwanegodd:

"Yn gyffredinol, credwn fod y safonau, er eu bod yn ddefnyddiol fel gwaelodlin, yn dangos diffyg uchelgais i wella sefyllfa'r Gymraeg mewn nifer o ffyrdd, yn enwedig yn yr ardaloedd daearyddol lle mae'r Gymraeg wedi bod yn gryf yn draddodiadol. Yn hynny o beth, teimlwn fod y safonau yn colli cyfle i gryfhau'r iaith ym mhob ardal yng Nghymru. Byddem wedi hoffi gweld, er enghraifft, safonau gweithredu a hybu llawer cryfach na'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y dogfennau hyn.

“Mae'n dod yn fwy amlwg mai dyhead pawb yng Nghymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg ac mai sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw'r unig ffordd o wireddu'r weledigaeth honno. Dylai’r safonau, fel unrhyw strategaeth neu gynllun o ran yr Iaith fod yn adlewyrchu hynny. Bydd gwir effaith y safonnau i’w weld pan fyddant yn cael eu rhoi ar waith – a phrofiad dydd i ddydd pobl Cymru fydd yn dangos pa mor effeithiol maen nhw.

Ymateb y Gymdeithas i'r ymgynghoriad

Safonau mewn perthynas â’r Gymraeg: Cynigion Comisiynydd y Gymraeg