Diffyg asesiadau effaith iaith yn ‘jôc’

Mae llai nag un ymhob tair mil o geisiadau cynllunio yn cael eu hasesu am eu heffaith ar yr iaith Gymraeg yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Tri awdurdod cynllunio lleol yn unig, o'r 25 yng Nghymru, sydd wedi cynnal asesiad effaith datblygiadau ar y Gymraeg dros y 2 flynedd ariannol ddiwethaf - cyfanswm o 16 asesiad allan o bron i 50,000 o geisiadau cynllunio a wnaed, sydd yn 0.03%.
 
Ni chynhaliwyd yr un asesiad effaith iaith gan gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion na Chonwy rhwng Ebrill 2010 ac Ebrill 2012 yn ôl eu hymatebion i gais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Daw'r newyddion ar drothwy cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011 ar Ragfyr 11 a fydd yn dangos faint o siaradwyr Cymraeg sydd ym mhob sir yng Nghymru.
 
Wrth ymateb i’r canlyniadau, dywedodd Cen Llwyd, Is-gadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
 
“Mae’n ymddangos fel bod y system yn bach o jôc. Beth yw diben canllawiau’r Llywodraeth os nad ydynt yn cael eu gweithredu? Os yw'r Gymraeg i fyw yna rhaid i’r awdurdodau gymeryd y mater o ddifrif - o’r lleol lan. Mae ganddyn nhw un arf yn eu meddiant ond mae'n amlwg nad ydynt yn barod i'w ddefnyddio. Mae’n syndod mawr nad ydym wedi gweld defnydd llawer mwy o asesiadau effaith iaith yn nifer o siroedd lle mae cymunedau Cymraeg yn wynebu heriau mawr."
 
Ers y flwyddyn 2000, mae Llywodraeth Cymru wedi annog awdurdodau cynllunio i ystyried effaith iaith ceisiadau cynllunio trwy ei nodyn cynghorol technegol, TAN 20, a pholisi cynllunio Cymru.
 
Ychwanegodd Cen Llwyd:
 
“Ers dros ddegawd mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio mai TAN 20 yw’r dull mwyaf effeithiol sydd ganddyn nhw i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried o fewn y system gynllunio. Maen nhw’n dadlau hynny i’r fath raddau nes eu bod nhw’n gwrthod ystyried newidiadau ehangach i’r system gynllunio a deddfwriaeth arall oherwydd eu bod yn ystyried y canllawiau mor rymus ar effeithiol. Eto i gyd mae’n ymddangos bod y mwyafrif helaeth o awdurdodau yn eu hanwybyddu. Mae'r ffigyrau hyn yn codi cwestiynau mawr am yr honiad hwnnw. Mae hyn, ynghyd a'r ffaith bod Bil Datblygu Cynaliadwy mae'r Llywodraeth yn ymgynghori arno yn diystyru'r Gymraeg yn gyfan gwbl yn tanseilio hygrededd y Llywodraeth ar fater y Gymraeg.”
 
Mewn ymateb i’r grŵp pwyso, dywedodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “...nad ydym wedi derbyn unrhyw asesiadau iaith o’r fath yn y naill gyfnod na’r llall. Beth bynnag, ni fyddai hynny’n ffactor wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.”  Dywedodd nifer o gynghorau mai datblygwyr neu’r ymgeiswyr fyddai’n ariannu neu gynnal yr asesiad effaith.
 
Ychwanegodd Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
 
“Mae 'na gwestiynau mawr i’w gofyn am yr holl system a blaenoriaethau’r Llywodraeth yn ganolog ac yn lleol. Os na all ceisiadau cynllunio gael eu gwrthod ar sail yr asesiad effaith iaith, beth yw’r pwynt eu cynnal neu ofyn iddynt gael eu cynnal? Ond ydy e’n arwain at y casgliad bod angen sail statudol llawer cryfach tu ôl iddynt?
 
“Os mai’r datblygwyr yn ariannu neu gynnal yr asesiadau effaith iaith, i ba raddau ydy’r cyhoedd a’r rhai sy’n penderfynu ar y ceisiadau yn gallu dibynnu arnynt? Oni ddylen nhw fod yn gwbl annibynnol o’r bobl sydd am wneud elw allan o’r datblygiadau?
 
“Rydym eisoes wedi dweud ein bod yn rhagweld y bydd canlyniadau’r Cyfrifiad wythnos nesaf yn codi cwestiynau am gyflwr yr iaith yn ein cymunedau. Yn ystod ein taith drwy Gymru eleni a thrwy Gynghrair Cymunedau Cymraeg rydym wedi gweld mai dyhead  nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg. Mae cryfder yr iaith ledled Cymru yn gwbl gysylltiedig â chymunedau lle mae 'na ddwysedd uchel iawn o siaradwyr. Ar hyn o bryd, mae’r system gynllunio yn gadael y Gymraeg a’i chymunedau i lawr.”
 
“Efallai nad yw Llywodraeth Cymru nac Awdurdodau Lleol yn sylweddoli'r angen i weithredu neu nad ydynt yn cymryd yr her o ddifrif, ond rydyn ni fel mudiad am roi galwad ar i bobl rymuso eu hunain a'u cymunedau i weithredu drostyn nhw eu hunain, a chydweithio gyda ni, er mwyn sicrhau lle y Gymraeg yn ein cymunedau.”