Lansio ‘maniffesto byw’ i gryfhau'r Gymraeg

‘Ymateb cadarnhaol i argyfwng yr iaith’ - dyna sut mae ymgyrchwyr wedi disgrifio'r ‘maniffesto byw’ a lansiwyd mewn rali yng Nghaernarfon.

Mae’r maniffesto, a luniwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cynnwys dros ugain o bolisïau gyda’r nod o wrth-droi dirywiad y Gymraeg a welwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad yn gynharach yr wythnos hon.  Ymysg y syniadau, mae’r Gymdeithas yn galw am: drawsnewid y system gynllunio er mwyn taclo her allfudo a mewnfudo; gwneud y Gymraeg yn sgil hanfodol i weithiwyr y sector cyhoeddus; system addysg ledled Cymru lle mae pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gwbl rugl yn y Gymraeg; datganoli swyddi Cymraeg i gymunedau, a phedryblu buddsoddiad y Llywodraeth yn yr iaith.

Yn ôl y Cyfrifiad, mi oedd ugain mil yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru -
lawr o 21% ddegawd yn ôl i 19% - ac fe gwympodd canran y siaradwyr yn holl
siroedd y gorllewin a’r gogledd. Targed Llywodraeth Cymru oedd cynyddu nifer y
siaradwyr Cymraeg o 5% i dros chwarter y boblogaeth.

Mae’r mudiad yn annog cyfraniadau gan y cyhoedd a chymunedau i’w faniffesto ar
Twitter trwy ddefnyddio’r hashnod #maniffestobyw, neu e-bostio
post@cymdeithas.org, fel bod modd datblygiadau’r syniadau ymhellach.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r maniffesto hwn yn rhaglen waith gadarnhaol a allai newid tynged ein
hiaith genedlaethol unigryw. Nid oes diben eistedd yn ôl a derbyn canlyniadau’r
Cyfrifiad: gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid ein
tynged a thynged ein cymunedau Cymraeg. Ni all y Gymraeg a’i chymunedau fforddio
mwy o’r un peth gan y llywodraeth na sefydliadau Cymru yn ehangach.

“Mae’n amser am ddewrder a syniadau newydd gan ein gwleidyddion. Os derbynia’r
Llywodraeth bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg sydd angen ei ddatrys ar frys, bydd
gobaith. Credwn mai dyhead nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i
gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; deallwn hefyd mai sicrhau cryfder cymunedau
Cymraeg eu hiaith yw'r unig ffordd o wireddu'r weledigaeth honno.  Yr hyn sydd
eisiau arnom yw’r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad.

Ychwanegodd Toni Schiavone, a arweiniodd y gwaith o lunio’r maniffesto:

“Nid ydym fel cymdeithas yn honni mai ni sydd piau’r holl atebion, felly byddwn
ni’n annog cymunedau ac unigolion i ychwanegu at y syniadau hyn. Fodd bynnag,
heb amheuaeth, mae angen cyfres o bolisïau clir a dewr gan Lywodraeth Cymru ym
mhob maes, ond yn arbennig ym meysydd addysg, cynllunio, tai a’r gweithle er
mwyn gwrth-droi’r dirywiad.

“Rydym wedi bod yn trafod rhai o’r syniadau hyn ers misoedd ymysg ein
haelodaeth, ond rydym wedi adolygu pob dim yng ngoleuni canlyniadau’r Cyfrifiad.
Wrth gydnabod difrifoldeb y sefyllfa, rydym yn agor lan ein syniadau i
drafodaeth ac yn gobeithio ennyn diddordeb pobl ledled y wlad.”

Copi o'r 'Maniffesto Byw' [PDF]