BBC yn gwthio Cymru oddi ar y 'clogwyn cerddorol’

Cafodd datganiad o gefnogaeth i gerddorion Eos ei ryddhau gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw.

Dywedodd Alun Reynolds, swyddog adloniant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae ymddygiad y BBC yn Llundain yn gywilyddus. Rydyn ni wedi cwympo oddi ar y clogwyn cerddorol - bellach mae yna fygythiad go iawn i'n unig orsaf gyflawn Gymraeg. Mae chwarae caneuon Saesneg mor aml ar yr orsaf a chwtogi ar yr oriau darlledu’n gwbl annerbyniol.

"Ry'n ni'n cytuno cant y cant gyda safiad Eos a'r cerddorion. Mae diwydiannau creadigol yn bwysig iawn i'n hiaith, ein heconomi, a'n cymunedau. Ni ddylai penaethiaid y BBC yn Llundain gael trin Cymru yn y fath modd. Wrth gwrs, mi oedd y BBC yn arfer dadlau mai bai PRS [Performing Rights Society] oedd y toriadau hyn, ond does dim modd iddynt guddio tu ôl i'r esgus ffug hwnnw bellach. Mae'u difaterwch tuag at Gymru yn gwbl amlwg i bawb.

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd y Gymdeithas:

"Mae hyn i gyd yn dangos unwaith eto'r angen i ddatganoli darlledu i Gymru. Mae Llywodraeth Llundain wedi gadael dyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg yn nwylo'r gorfforaeth ddarlledu Brydeinig hon hefyd. Tra bod y gair olaf ynghylch y materion hyn gan y penaethiaid yn Llundain, nid yw diwylliannau Cymru yn ddiogel. Rydyn ni'n trafod gydag aelodau'r Gymdeithas ar hyn o bryd pa gamau pellach yr ydym am eu cymryd."
 

Am ragor o wybodaeth: www.ygynghrair.com