Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth o'r bwriad i greu panel panel arbenigol newydd a fydd yn dechrau ar y gwaith o sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.
Wrth groesawu dywedodd Mirian Owen, is-gadeirydd grŵp darlledu Cymdeithas yr Iaith:
"Mae hyn yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac mae'n dda gweld bod bwriad i'r Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu a ddaw yn sgil y panel baratoi'r achos dros ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru. Wrth reswm byddai'n well gyda ni petai'r Awdurdod cysgodol yn cael ei greu yn syth, mae'n gwbl amlwg bod angen datganoli darlledu cyn gynted â phosibl.
"Mae'n 40 mlynedd ers sefydlu S4C eleni, ond dim ond un sianel Gymraeg sydd gyda ni o hyd; ac wrth i bobl droi yn fwy at wylio ar blatfformau ar-lein mae cynnwys Cymraeg yn brin iawn. Mae dylanwad anferth gan blatfformau fel YouTube ar ddefnydd iaith, ar bobl ifanc yn enwedig.
"Rydyn ni wedi argymell creu Menter Ddigidol Gymraeg fyddai'n cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg ar-lein ac yn arfogi pobl i greu eu deunydd eu hunain yn Gymraeg. Byddai'n bosibl sefydlu menter o'r fath nawr, felly galwn ar y Llywodraeth i wneud hyn yn gyfamserol er mwyn cryfhau darlledu Cymraeg yn ogystal â Chymreig."