Rhybudd Preifatrwydd

Mae’r Gymdeithas yn parchu preifatrwydd ei chefnogwyr ac ymwelwyr i’w gwefan. Mae’r polisi hwn yn egluro sut rydym yn casglu gwybodaeth, beth rydym yn ei wneud â'r wybodaeth hynny, a pha ddewisiadau sydd gennych chi.

Pwy yw’r Gymdeithas?

Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith yn 1962, ac mae’n rhan ganolog o’r frwydr dros gyfiawnder i’r Gymraeg ers hynny.

Nod y Gymdeithas yw sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chydnabod fel priod iaith Cymru ac yn ennill ei lle fel iaith swyddogol yng Nghymru, a sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i holl bobl Cymru a bod gan y bobl hynny yr hawl i fyw eu bywydau yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mudiad anghorfforedig yw’r Gymdeithas, ac mae ein cyfansoddiad i’w weld yma

Eich preifatrwydd

Rydym yn ystyried ein cyfrifoldebau wrth brosesu eich data personol yn fater o bwys. Mae’r polisi hwn yn egluro sut rydym yn casglu, defnyddio a diogelu eich data personol. Byddwn yn ei ddiweddaru os bydd deddfwriaeth yn newid neu os byddwn yn newid y ffordd yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth.

Buddion dilys

O dan y Ddeddf Gwarchod Data a ddaeth i rym fis Mai 2018, mae gennym nifer o seiliau cyfreithiol ar gyfer 'prosesu' (h.y. defnyddio) eich gwybodaeth bersonol. Un o’r seiliau cyfreithiol hynny yw 'buddion dilys' (legitimate interests).

Yn fras, mae buddion dilys yn golygu y gallwn brosesu eich gwybodaeth bersonol os oes gennym reswn dilys dros wneud hynny, ac nad ydym yn tramgwyddo eich hawliau a buddion.

Beth mae hyn yn ei olygu? Wrth i chi ddarparu eich manylion personol i ni, rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer ein buddion dilys wrth weithredu er lles y Gymraeg. Ond cyn gwneud hyn, byddwn yn ystyried yn ofalus a phwyso a mesur unrhyw effaith gall hyn gael arnoch chi a’ch hawliau.

Rhai enghreifftiau ble gallwn ddefnyddio’r sail yma yw wrth farchnata’n uniongyrchol, canfod twyll, cynnal diogelwch ein system, dadansoddi data, gwella neu addasu ein gwasanaethau, adnabod patrymau defnydd a phenderfynu pa mor effeithiol yw ein hymgyrchoedd a gwaith codi arian.

Bydd y Gymdeithas yn defnyddio gwahanol foddion i gyrraedd ein nodau: credwn fod pobl sy’n rhannu ein gwerthoedd eisiau gwybod sut i’n cefnogi ni. Byddwn yn prosesu’r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni er mwyn cynnal a rheoli ein mudiad a’n galluogi i roi marchnata, gwybodaeth, gwasanaethau a chynnyrch perthnasol a’r profiad fwyaf diogel posib. Dyna’r hyn rydym yn ei ystyried yn fuddion dilys y Gymdeithas.

Ein buddion

Dyma rhai enghreifftiau o sut a pham byddwn ni’n defnyddio’r dull yma yn ein gwaith er lles y Gymraeg.

Marchnata uniongyrchol: byddwn yn anfon gwybodaeth a cheisiadau am arian sy’n cyfrannu tuag at nodau ac amcanion y Gymdeithas. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein marchnata yn berthnasol i chi, wedi ei deilwra i’ch diddordebau.

Archebu ar-lein: er mwyn prosesu archeb, rhaid cymryd taliad a manylion cyswllt, megis enw, cyfeiriad dosbarthu a rhif ffôn.

  • Eich lles: prosesu eich gwybodaeth i warchod yn erbyn twyll wrth brynu ar ein gwefan, ac er mwyn sicrhau bod ein gwefan a systemau yn ddiogel.

  • Teilwra: ble mae’r prosesu yn ein galluogi i wella neu deilwra ein gwasanaeth a'n cyfathrebu er lles ein cefnogwyr

  • Dadansoddi: er mwyn prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion dadansoddi cwsmeriaid, asesu, proffilio a marchnata uniongyrchol, fesul un neu ar sail cronnus, er mwyn ein helpu gyda’n gweithgareddau ac i ddarparu’r wybodaeth fwyaf perthnasol cyn belled nad yw hyn yn niweidio eich hawliau a buddion (gweler hefyd 'Creu proffiliau cefnogwyr' isod).

  • Ymchwil: i weld pa mor effeithiol yw ymgyrchoedd hyrwyddo a hysbysebu, ac i ddatblygu ein cynnyrch, gwasanaethau, systemau a pherthnasau gyda chi.

  • Gofal dyledus: gall fod angen i ni ymchwilio i gefnogwyr, cwsmeriaid posib a phartneriaid busnes posib er mwyn penderfynu a yw’r cwmnïau ac unigolion hyn wedi bod ynghlwm â neu’n euog o droseddau megis twyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth.

  • Byddwn hefyd yn dal gwybodaeth amdanoch er mwyn i ni allu parchu eich dewisiadau o ran cysylltu â chi.

Eich buddion

Wrth i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn ein buddion dilys, byddwn yn ystyried a chydbwyso unrhyw effaith posib arnoch chi a’ch hawliau o dan gyfraith gwarchod data a chyfreithiau eraill. Nid yw ein buddion dilys o reidrwydd yn fwy na’ch buddion chi – ni fyddwn yn defnyddio eich data personol ar gyfer gweithgareddau ble mae’r effaith arnoch chi’n bwysicach na’r buddion i ni (oni bai bod gennym eich caniatâd neu bod dyletswydd neu sail cyfreithiol arall).

Cofiwch, gallwch newid y ffordd rydym yn cysylltu â chi neu ofyn i ni beidio â phrosesu eich manylion personol unrhyw bryd trwy gysylltu â post@cymdeithas.cymru.

Pa ddata rydym yn ei gasglu a sut rydym yn casglu eich manylion

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gweithredu fel 'rheolwr' y data personol rydych chi’n ei ddarparu i ni. Byddwn fel arfer yn casglu data personol sylfaenol amdanoch – enw, cyfeiriad post, rhif ffôn, cyfeiriad ebost a manylion banc os ydych yn ein cefnogi’n ariannol. Byddwn hefyd yn cadw cofnod o’ch cyfraniadau ariannol, eich cefnogaeth o ddigwyddiadau, neu os byddwch wedi arwyddo deiseb neu brynu nwydd.

Weithiau byddwn yn casglu gwybodaeth arall amdanoch megis eich dyddiad geni, rhywedd, neu fanylion iechyd. Byddwn yn glir iawn gyda chi ein bod yn bwriadu casglu gwybodaeth o’r fath, a byddwn ni ond yn gwneud hyn gyda’ch caniatâd penodol.

Byddwn hefyd yn dal gwybodaeth ynglŷn â’ch manylion fel bod modd i ni barchu eich dewisiadau ynghylch cyswllt gennym ni. Byddwn yn casglu eich gwybodaeth bersonol mewn nifer o ffyrdd:

  • pan rydych yn ei ddarparu i ni yn uniongyrchol megis wrth i chi ymaelodi, gefnogi ymgyrch, neu brynu nwyddau gennym

  • pan rydych yn rhoi caniatâd i gorff arall ei rannu gyda ni (gan gynnwys Facebook neu Twitter)

  • wrth i ni ei gasglu wrth i chi ddefnyddio ein gwefannau

  • pan rydych wedi ei roi i drydydd parti ac wedi rhoi eich caniatâd i’r wybodaeth cael ei throsglwyddo i ni

  • o wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn diweddaru eich gwybodaeth (e.e. bas data cyfeiriadau Swyddfa’r Post).

Byddwn yn cyfuno gwybodaeth o’r ffynonellau hyn gyda’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni yn uniongyrchol.

Wrth roi caniatâd i gyrff trydydd parti rannu eich data, dylech wirio eu polisïau preifatrwydd yn ofalus er mwyn deall yn llawn sut byddan nhw’n prosesu eich data.

Pam fod angen y data arnom ni

Rydym yn casglu eich data personol yng nghyswllt gweithgareddau penodol, megis diweddariadau ymgyrch, deisebau ac ymgyrchoedd ebost, ceisiadau cylchlythyr, ceisiadau cofrestru neu aelodaeth, prynu nwyddau a thocynnau, sylwadau, cyfraniadau, a chymryd rhan mewn cystadlaethau.

Mae angen y wybodaeth unai er mwyn cwblhau eich cais neu er mwyn rhoi gwasanaeth wedi’i deilwra i chi. Does dim rhaid i chi roi’r wybodaeth yma er mwyn edrych ar ein gwefan. Ond os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth yr ydym yn gofyn amdano, mae’n bosib na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau.

Pwy sy'n casglu ac yn defnyddio'r data

Bydd y data a gesglir gennym yn cael ei gadw mewn system gysylltiadau gynhwysfawr a diogel.

Bydd gan weithwyr cyflogedig fynediad at y system hon ynghyd â rhai swyddogion etholedig (cenedlaethol a rhanbarthol).

Bydd pob gweithiwr cyflogedig yn mynychu cwrs ar y Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol er mwyn sicrhau ei fod yn trin a defnyddio’r data yn unol â chyfreithiau cyfredol. Bydd pob swyddog etholedig yn gorfod cydymffurfio â set o reolau penodol a mynychu sesiwn hyfforddiant ar ddefnyddio data cyn cael mynediad at y system.

Cedwir cofnod manwl o bwy sydd a mynediad at y system ac adolygir hwn yn flynyddol yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol (cenedlaethol a’r cyfarfodydd blynyddol rhanbarthol) pan etholir swyddogion newydd. Bydd unrhyw un sy’n gorffen yn ei rol fel gweithiwr cyflogedig neu swyddog etholedig yn cael ei dynnu o’r system gysylltiadau.

Creu proffiliau cefnogwyr

Gall y Gymdeithas ddefnyddio dulliau proffilio a sgrinio er mwyn cynhyrchu cyfathrebu perthnasol a darparu gwell profiad i’n cefnogwyr. Gall broffilio ein helpu i dargedu ein hadnoddau’n fwy effeithiol trwy roi mewnwelediad i gefndir ein cefnogwyr a'n helpu ni i adeiladu perthynas sy’n berthnasol i’w diddordebau a’u gallu i roi.

Er mwyn gwneud hyn, gallwn gyfeirio at ffynonellau data allanol ychwanegol er mwyn cynyddu a gwella’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Gall hyn gynnwys manylion newid cyfeiriad, dyddiad geni, rhifau ffôn a manylion cyswllt eraill. Gall hefyd gynnwys gwybodaeth o gofrestrau cyhoeddus a ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus megis Tŷ’r Cwmnïau, papurau newydd a chylchgronau.

Os nad ydych am i ni ddefnyddio eich data yn unrhyw un o’r ffyrdd a restrwyd uchod, neu os oes cwestiynau ynglŷn â hyn, cysylltwch â ni ar post@cymdeithas.cymru.

Plant

Os ydych o dan 13 oed, gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd rhiant/gwarcheidwad cyn anfon unrhyw wybodaeth bersonol trwy unrhyw wefan neu i’r Gymdeithas. Mae rhai o’n gweithgareddau yn addas ar gyfer plant, felly gallem ofyn am eich oedran. Cyn cymryd rhan, gwnewch yn siŵr eich bod wedi siarad gyda rhiant/gwarcheidwad.

Nodwch na fyddwn yn wybodus yn marchnata i neu'n derbyn cyfraniadau neu archebion ar gyfer nwyddau neu wasanaethau gan bersonau sy’n iau na 13.

Fel rhiant neu warcheidwad, rydym yn eich annog i fod yn ymwybodol o’r gweithgareddau mae’ch plant yn cymryd rhan ynddynt, ar-lein ac yn y byd go iawn. Os yw’ch plant yn datgelu gwybodaeth o’u gwirfodd, gall hyn annog negeseuon di-wahoddiad. Rydym yn awgrymu eich bod yn annog i’ch plentyn beidio darparu unrhyw wybodaeth heb eich caniatâd.

Ein marchnata

Mae’r Gymdeithas yn prosesu eich data pan mae hynny’n unol â’n buddion dilys, a phan nad yw’r buddion hynny’n tramgwyddo eich hawliau. Mae’r buddion dilys hynny yn cynnwys darparu gwybodaeth i chi am ein hapeliadau, sefyllfa’r iaith Gymraeg, ymgyrchu, aelodaeth, gwasanaethau, cynnyrch, codi arian, ceisiadau cylchlythyr, sylwadau, cystadlaethau a gweithgareddau eraill (gweler hefyd 'Ein buddion' uchod).

Weithiau hefyd, gyda’ch caniatâd, byddwn yn prosesu eich data personol er mwyn eich darparu gyda gwybodaeth am ein gwaith neu ein gweithgareddau rydych wedi gofyn amdanynt neu yn ei ddisgwyl.

Ar achlysuron eraill, byddwn yn prosesu data pan mae ei angen arnom er mwyn cyflawni cytundeb (er enghraifft, os ydych wedi prynu rhywbeth ar siop ein gwefan) neu ble mae angen i ni wneud hyn oherwydd y gyfraith neu reoliadau eraill.

Gwirfoddoli

Wrth i chi wirfoddoli gyda’r Gymdeithas, byddwn yn eich diweddaru ynglŷn â’r gwaith rydym yn ei wneud a’r digwyddiadau rydym yn rhan ohonynt. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau gall effeithio ar eich gwirfoddoli gyda ni ac mae angen i chi wybod amdanynt. Trwy gytuno i wirfoddoli gyda’r Gymdeithas, rydych yn cytuno y gallem anfon ebyst ynglŷn â gwirfoddoli â’ch rôl fel gwirfoddolwr. Byddwn weithiau yn rhannu eich cyfeiriad ebost gyda gwirfoddolwyr eraill y Gymdeithas, er enghraifft yn ystod y broses o drefnu digwyddiad rydych wedi dewis mynd iddo.

Rhannu eich gwybodaeth

Dim ond pan fo’n rhaid i ni oherwydd gorfodaeth gyfreithiol y byddwn yn datgelu gwybodaeth i drydydd partïon neu unigolion, yn ogystal â’r canlynol:

  • eich bod wedi cytuno y gallwn wneud hynny

  • pan fyddwn yn defnyddio cwmnïau eraill i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan, er enghraifft prosesu, postio neu ddosbarthu archebion, ateb cwestiynau cwsmeriaid ynghylch cynnyrch a gwasanaethau, anfon post ac ebost, dadansoddi cwsmeriaid, asesu a phroffilio, wrth ddefnyddio archwilwyr ac ymgynghorwyr a phrosesu taliadau ar gardiau credyd a debyd

  • os ydym wedi derbyn cwyn ynglŷn ag unrhyw gynnwys rydych wedi ei bostio neu ei drosglwyddo i neu o un o’n safleoedd, er mwyn rhoi ein telerau ac amodau ar waith neu os rydym yn credu ein bod angen i ni wneud hynny er mwyn gwarchod ac amddiffyn hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol y Gymdeithas, ein gwefannau neu ein hymwelwyr ac at ddibenion cyfreithiol eraill

  • gallwn ddatgelu ystadegau cronnus ynglŷn ag ymwelwyr i’n gwefan, cefnogwyr, cwsmeriaid a gwerthiant er mwyn disgrifio ein gwasanaethau a’n gweithredu i bartneriaid posib a thrydydd partïon cyfrifol eraill, ond ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid adnabod unigolion â hi

  • os ydym yn cynnal digwyddiad mewn partneriaeth â mudiadau eraill a enwir, mae’n bosib bydd angen rhannu eich manylion.

Byddwn yn gwbl glir beth fydd yn digwydd i’ch data wrth i chi gofrestru. Byddwn ni byth yn gwerthu neu logi eich gwybodaeth i fudiadau neu gwmnïau eraill.

Cadw gafael ar eich gwybodaeth

Dim ond cyhyd ag sydd ei hangen, ar gyfer pob pwrpas sydd gennym ar ei chyfer, y byddwn yn cadw eich gwybodaeth.

Os ydych yn penderfynu peidio â pharhau i gefnogi’r Gymdeithas, neu’n gofyn i ni beidio cysylltu â chi eto, byddwn yn cadw peth wybodaeth sylfaenol er mwyn osgoi anfon deunyddiau nad ydych eu heisiau yn y dyfodol, ac er mwyn sicrhau nad ydym yn dyblygu gwybodaeth yn ddamweiniol.

Polisi cwcis

Mae ein gwefan, fel bron iawn pob gwefan arall, yn defnyddio briwsion (cwcis) er mwyn rhoi’r profiad gorau posib i chi. Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur neu ffôn bach wrth i chi edrych ar wefannau.

Mae’r cwcis yn ein helpu i wella'r wefan ac i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n iawn, er enghraifft wrth brynu nwyddau.

Os yw gosodiadau eich porwr yn derbyn cwcis, deallwn fod hyn, wrth i chi barhau i ddefnyddio’r wefan, yn golygu eich bod yn fodlon â hyn. Pe baech yn dymuno dileu neu beidio â defnyddio cwcis o’n safle, gallwch ddysgu sut i wneud hyn isod, ond mae’n debyg fydd hyn yn meddwl na fydd y wefan yn gweithio fel rydych yn ei ddisgwyl.

Ein cwcis: Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn i’n gwefan weithio, gan gynnwys cwcis wrth i chi brynu eitemau yn ein siop, er mwyn i’r fasged siopa weithio. Yr unig ffordd i atal y math yma o gwci yw peidio â defnyddio ein gwefan.

Cwcis ystadegau di-enw: Rydym yn defnyddio cwcis i roi ystadegau at ei gilydd, er enghraifft faint o bobl sydd wedi ymweld â’n gwefan, pa fath o dechnoleg maen nhw’n defnyddio, faint o amser maen nhw’n ei dreulio, ar ba dudalennau maen nhw’n edrych, ac ati. Mae hyn yn helpu ni i wella’r wefan. Mae’r rhaglenni dadansoddi hyn hefyd yn rhoi gwybod i ni, yn ddi-enw, sut mae pobl yn cyrraedd y wefan, ac os ydynt wedi ymweld o’r blaen. Rydym yn defnyddio Google Analytics at y diben hwn.

Adnoddau trydydd parti: Mae ein gwefan, fel y rhan fwyaf o wefannau, yn defnyddio adnoddau sydd wedi eu darparu gan drydydd partïon. Er enghraifft, pan fo fideo YouTube yn rhan o dudalen.

Cwcis gwefannau cymdeithasol: Fel bod modd i chi hoffi neu rannu ein cynnwys yn hawdd ar safleoedd cymdeithasol, mae gennym fotwm AddThis ar ein gwefan. Bydd effaith hyn ar eich preifatrwydd yn amrywio gan ddibynnu ar y rhwydwaith cymdeithasol dan sylw a’ch gosodiadau chi wrth ei ddefnyddio.

Diffodd cwcis: Fel arfer, gallwch ddiffodd cwcis trwy newid gosodiadau eich porwr er mwyn ei atal rhag derbyn cwcis. Ond bydd gwneud hynny yn cyfyngu ar weithredu arferol ein gwefan ni a llawer iawn o wefannau eraill, gan fod cwcis yn rhan arferol o wefannau modern.

Beth yw eich hawliau?

Mae cyfraith gwarchod data newydd, a ddaeth i rym fis Mai 2018, yn creu hawliau pwysig, sef:

  • yr hawl i gael eich hysbysu – rhaid i ni ddweud wrthoch sut byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

  • yr hawl i gael mynediad – gallwch ofyn am gopi o wybodaeth sydd gennym amdanoch

  • yr hawl i gywiro – gallwch ofyn i ni gywiro neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch

  • yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu gwybodaeth sydd gennym amdanoch, gan roi rheswm

  • yr hawl i gyfyngu ar brosesu

  • yr hawl i gludadwyedd data – gallwch ofyn am gopi o wybodaeth sydd gennym amdanoch, er mwyn ei ddefnyddio eich hun

  • yr hawl i wrthwynebu – gallwch ofyn i ni beidio â defnyddio’ch gwybodaeth ar gyfer marchnata a chyfathrebu

  • hawliau yn ymwneud â phenderfyniadau sy’n seiliedig ar broffilio awtomatig.

Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau o dan y ddeddf gwarchod data, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cofiwch, gallwch newid y ffordd rydym yn cysylltu â chi, neu ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol ar unrhyw adeg, trwy ebostio post@cymdeithas.cymru.

Sut i gysylltu â ni

Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw beth yn ein Polisi Preifatrwydd, neu i ddarganfod mwy am eich hawliau neu i gael copi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, cysylltwch â’n prif swyddfa, ac fe wnawn ymateb.

Os hoffech gwyno ynglŷn â sut rydym wedi delio â’ch data personol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data (sef yr Is-gadeirydd Gweinyddol) a fydd wedyn yn ymchwilio i’r mater. Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb neu’n credu nad ydym yn defnyddio eich data personol yn unol â’r gyfraith, gallwch gwyno i’r Rheoleiddiwr Codi Arian neu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Os hoffech drafod unrhyw beth yn y polisi neu ynglŷn â’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, neu i gysylltu â’n swyddog gwarchod data, mae croeso i chi gysylltu â ni ar: post@cymdeithas.cymru, ffonio 01970 624501 neu ysgrifennu at:

Cymdeithas yr Iaith, Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1JH

Mabwysiadwyd: Mai 2018, Diweddarwyd: Ebrill 2021, Adolygwyd Chwefror 2024