Galwad am ragor o brentisiaethau Cymraeg

Ar gyfer Wythnos Prentisiaethau, galwn ar gyrff cyhoeddus a chyflogwyr ledled Cymru i fuddsoddi mewn prentisiaethau cyfrwng Cymraeg. 

 

Dywedodd cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone:

 

“Ar hyn o bryd mae llai na 5% o’r gyllideb o £120miliwn ar gyfer prentisiaethau yn mynd ar brentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a dyw’r sefyllfa ddim wedi gwella fawr ddim ers llawer o flynyddoedd; nid yw hyn yn ddigon da. Dylai Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ddynodi cwotâu ar gyfer nifer y prentisiaethau Cymraeg ac fe ddylai o leia £20miliwn o’r cyfanswm o £120miliwn gael ei neilltuo ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, dylid neilltuo £2miliwn i’r Coleg Cymraeg i recriwtio hyfforddwyr ac aseswyr a darparu rhaglen o hyfforddiant i gyrff gyhoeddus ac eraill ar sut i gefnogi prentisiaid sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rhaglen prentisiaethau yn ffordd wych o ddatblygu gweithlu’r dyfodol a dylai cyflogwyr a busnesau yn y sector gyhoeddus a’r sector briefat ymrwymo i gefnogi gweithleodd Cymraeg. 

 

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos gweledigaeth a gwneud llawer mwy os ydynt o ddifrif ynghylch cylfawni eu nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ein dogfen ‘Mwy Na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’, amlinellwn y modd y gellir cyrraedd a mynd y tu hwnt i’r targed hwn. Mae angen, er enghraifft, i lywodraeth nesaf Cymru greu 1000 o ofodau uniaith Gymraeg, fydd yn cynnwys gweithleoedd, er mwyn i’r iaith ffynnu ar lawr gwlad. Dyma’r math o uchelgais rydym angen ei weld gan Lywodraeth Cymru.”