Cefnogaeth leol unfrydol i Rali Tryweryn "Nid yw Cymru ar werth"

 

Union fis cyn y bydd disgwyl i gannoedd o bobl gymryd rhan yn rali "Nid yw Cymru ar Werth" ar argae Tryweryn, rydyn ni'n falch o allu cyhoeddi bod cynrychiolwyr etholedig y fro wedi datgan cefnogaeth unfrydol i'r rali ac i’r ymgyrch i roi grymoedd i Awdurdodau Lleo reoli'r farchnad dai. Bydd cannoedd o gefnogwyr am 1pm Sadwrn 10ed o Orffennaf yn ffurfio argae dynol ar draws yr argae fel symbol o ymrwymiad i atal chwalfa cymunedau Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran ein hymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’:

"Dan ni'n falch o allu cyhoeddi, fis yn union cyn dyddiad Rali Tryweryn, fod yr holl gyrff etholedig lleol wedi datgan cefnogaeth i’r Rali ac y byddan nhw yno ar y diwrnod i lofnodi'r alwad ar y Llywodraeth i 'weithredu ar frys ac mewn modd radical i sicrhau fod cymunedau lleol yn gallu rheoli'r farchnad dai a'r broses gynllunio i sicrhau cartrefi i'w pobl'. Bydd Aelod lleol y Senedd, Mabon ap Gwynfor, hefyd yno ar y diwrnod, ynghyd â Chynghorydd Sir Bro Tryweryn, y Cyng. Elwyn Edwards; bydd cadeiryddion a chynrychiolwyr y pedwar Cyngor Bro lleol hefyd yno i lofnodi'r alwad ar ran eu cynghorau - sef y Cyng. Alwyn Jones (ar ran Cyngor Cymuned Llandderfel), y Cyng. Dewi Wyn Jones a'r Cyng. Beryl Griffiths (ar ran Cyngor Cymuned Llanuwchllyn), y Cyng. Euros Puw (ar ran Cyngor Cymuned Llanycil), a Maer y Bala, Owain Rhys Evans. Mae arweinydd Cyngor Gwynedd (Dyfrig Siencyn) hefyd wedi datgan ei gefnogaeth, a bydd ei ragflaenydd, y Cyng. Dyfed Edwards, hefyd yno i lofnodi'r alwad ar y Llywodraeth.

"Go brin fod yr un digwyddiad nac ymgyrch gan Gymdeithas yr Iaith wedi ennyn y fath gefnogaeth yn ein cymunedau. Disgwyliwn a hyderwn y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithredu ar frys ac mewn modd radical, ar ôl yr holl flynyddoedd o ymdrechu ac ymgyrchu, i daclo'r argyfwng sy'n atal pobl rhag cael cartrefi yn eu cymunedau."

Byddwn yn cynnal ein rali ‘Nid yw Cymru ar werth’ ar argae Tryweryn am 13:00, 10 Mehefin.