Rali ‘Nid yw Cymru ar werth’ ar hyd Argae Tryweryn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi, yn amodol ar reolau Cofid-19, y bydd dros 300 o gefnogwyr yn ffurfio rhes ar hyd Argae Tryweryn yn symbol o'u hymrwymiad i sefyll yn erbyn grymoedd y farchnad dai sy'n tanseilio cymunedau Cymru. 

Bedwar mis i heddiw, am 1pm ddydd Sadwrn 10fed o Orffennaf byddwn yn sefyll ar hyd yr argae 600medr ger y Bala, gyda 2 fedr o bellter rhyngom, ac yn codi baneri yn dwyn enwau eu cymunedau lleol ledled Cymru. Caiff y cyfan ei ffilmio gan ddrôn a'i ddarlledu'n fyw ar y cyfryngau cymdeithasol. O flaen y weithred symbolaidd, anerchir y dorf gan Dafydd Iwan a Delyth Jewell.

Esboniodd Osian Jones, llefarydd ar ran ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’ Cymdeithas yr Iaith:

"’Dan ni'n falch iawn fod Dafydd Iwan a Delyth Jewell - dau ymgyrchydd a gwleidydd o ddwy gornel wahanol o Gymru - yn rhannu llwyfan i ddangos fod y farchnad dai yn chwalu cymunedau lleol ledled y wlad. Mae'n achosi gwahanol fathau o broblemau mewn gwahanol ardaloedd, ond yr un yw'r canlyniad: fod pobl ifanc yn methu cael hyd i gartrefi yn eu cymunedau eu hunain. Bydd y bobl sy'n bresennol yn Rali Tryweryn yn llofnodi datganiad enfawr yn galw ar y llywodraeth newydd i basio Deddf Eiddo fel mater o frys i amddiffyn ein cymunedau.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi enwau rhagor o bobl fydd yn cymryd rhan yn y rali, ac enwau pobl amlwg a fydd yn llofnodi'r alwad ar y llywodraeth newydd. Rydyn ni'n gohirio cynnal y rali tan ganol yr haf er mwyn sicrhau'r cyfle gorau y byddwn yn gallu cynnal rali fawr i anfon neges glir i'r llywodraeth newydd, tra'n parchu gofynion iechyd o ran cadw pellter cymdeithasol. Os daw cannoedd yn rhagor i'r rali, bydd digon o le i ffurfio dwy linell ar draws yr argae, a bydd lle i chwaneg ar hyd y glannau."

Yn y cyfamser, disgwylir y cynhelir dadl yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher nesaf (yr 17eg o Fawrth) ein deiseb y Gymdeithas oedd yn galw ar y llywodraeth bresennol i roi grymoedd brys i Awdurdodau Lleol i reoli'r farchnad dai. 

Ychwanegodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol:

"Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru basio Deddf Eiddo i reoleiddio’r farchnad dai fel mater o frys yn dilyn yr etholiad ym mis Mai. Os byddwn yn parhau i oedi, ni fydd y Gymraeg yn parhau fel iaith gymunedol. Wedi degawdau o drafod, daeth amser gweithredu.

“Yn ogystal, fel rhan o’n gweledigaeth ‘Mwy Na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’, rydyn ni’n galw ar lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno pecyn o fesurau er mwyn trawsnewid y farchnad dai, megis trethi ar dwristiaeth, elw landlordiaid ac ail dai. Dylai ein gwleidyddion fod yn gweithio er budd pobl gyffredin a’n cymunedau, yn hytrach nag er budd y cyfoethog.”