Rali aml-safle ‘Nid yw Cymru ar werth’

 
Byddwn yn cynnal rali aml-safle yfory (dydd Sadwrn, 21 Tachwedd) i brotestio’n erbyn yr argyfwng dai bresennol yng Nghymru. Galwn ar Lywodraeth Cymru i wneud bopeth o fewn eu gallu i daclo’r argyfwng, gan gynnwys rhoi grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai a chyflwyno Deddf Eiddo. Mae’r galwadau hyn yn ran o'n hymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’ sydd hefyd yn cynnwys deiseb gyfredol ar wefan y Senedd sydd bellach â thros 5,300 o lofnodion. 

 

Bydd ralïau yn cymryd lle yng Nghaerfyrddin, Llanberis a Chaerdydd, a bydd aelodau o'r Gymdeithas yng Ngheredigion yn cerdded 7 milltir o Lanrhystud i rali yn Aberaeron. Yn Llanberis, ble gynhelir y brif rali, bydd Mabon ap Gywnfor, darpar ymgeisydd i’r Senedd Plaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd, yn siarad, ynghyd ag Elin Hywel (cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith) a Rhys Tudur (cynghorydd tref Nefyn). Bydd Hywel Griffiths, Mirain Iwerydd a Bethan Ruth yn siarad yn y rali yn Aberaeron, a’r Cyng Cefin Campbell (deilad portffolio Materion Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin), Cyng Cris Tomos (deiliad portffolio Amgylchedd ac Iaith Cyngor Sir Benfro) a Sioned Elin yng Nghaerfyrddin. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith ac un o’r siaradwyr yn y rali yng Nghaerfyrddin, Sioned Elin: 

"Allwn ni ddim disgwyl nes etholiad llywodraeth newydd y flwyddyn nesaf, gan fod prisiau tai wedi codi gymaint yn yr ardaloedd gwledig fel bod teuluoedd lleol yn cael eu gorfodi o'r farchnad. Mae angen i'r llywodraeth roi pecyn argyfwng o rymoedd i Awdurdodau Lleol yn awr i reoli'r sefyllfa. Mae’r ffaith fod dros 5,300 o bobl bellach wedi arwyddo’r ddeiseb yn pwysleisio’r angen yma am weithredu brys gan y Llywodraeth."

Ychwanegodd Osian Jones, llefarydd ar ran ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’ Cymdeithas yr Iaith:

‘Mae’r seyllfa bresennol yn un du hwnt i dorcalonnus. Mae’r hawl i fyw adra yn rywbeth gwbl allweddol i unrhyw gymuned fyw ond yn anffodus, mewn nifer gynyddol o ardaloedd yng Nghymru mae pobl ifanc yn ei chael yn gwbl amhosib i ymgartrefu yn eu cymunedau. Nid eu bai nhw ydy hyn wrth gwrs: mae’r broblem tu hwnt i’w rheolaeth nhw ac yn deillio o’r ffaith fod y system dai yn ran o’r farchnad agored sy’n golygu nad oes rheolaeth gyhoeddus ddigonol arno. Canlyniad hyn yw sytem dai sydd ddim yn gweithio er lles ein cymunedau a sydd bellach wedi datblygu i fod yn argyfwng.

 

‘Oherwydd hyn, byddwn ni’n ymgyrchu ddydd Sadwrn i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfres o fesurau argyfyngol, fyddai’n cynnwys rhoi’r grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai. Ac hyn yr hir-dymor, bydd angen i’r Llywodraeth gyflwyno cyfres o ddatrysiadau strwythurol, fel Deddf Eiddo, er mwyn sicrhau na fydd argyfwng o’r math yma’n digwydd eto a bod y farchnad dai yn gweithio er budd cymunedau, nid cyfalafiaeth.’

Trefniadau’r rali aml safle (dydd Sadwrn 21ain Tachwedd): tu allan i swyddfeydd y cyngor yn Aberaeron am 2yh; Llyn Padarn, Llanberis am 11yb; neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11yb; tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd am 2yh.