Morgannwg-Gwent

Cadeirydd: Mirain Owen a Steve Blundell

Croeso i Ranbarth Morgannwg-Gwent. Mae'r rhanbarth yn ymestyn o Abertawe i Fynwy ac yn cynnwys 12 cyngor sir. Mae'n gartre i 3 dinas a thros hanner poblogaeth Cymru!

Rydym yn cyfarfod bob deufis fel arfer (dros Zoom ar hyn o bryd). 

Gan fod y rhanbarth yn un eang, mae croeso mawr i chi sefydlu cell er mwyn trafod pethau sy'n fwy perthnasol i chi – gellir gwneud hyn mewn ysgol, coleg neu yn y gymuned. Gall y swyddfa'n ganolog helpu gydag adnoddau, syniadau am weithgareddau, ayyb. 

Gweledigaeth Rhanbarth Morgannwg-Gwent yw sicrhau fod gan bob unigolyn yr hawl i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Amcanion (er mwyn cyflawni’r weledigaeth honno)

  • Sicrhau’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg (e.e. gyda busnesau, adrannau llywodraeth ayyb).
  • Cefnogi ardaloedd ble mae’r Gymmraeg yn gryf er mwyn ei hadfer fel priod iaith y mannau hynny.
  • Hybu dysgu Cymraeg ymysg plant ac oedolion.
  • Gorfodi awdurdodau cyhoeddus i gydymffurfio â’u hymrwymiadau statudol.
  • Annog o leiaf un busnes ym mhob cymuned i weithredu trwy’r Gymraeg.
  • Helpu sefydlu cell ym mhob coleg ac ysgol gyfun Gymraeg yn y rhanbarth.
  • Ehangu aelodaeth a chynyddu incwm y rhanbarth.

Os gelli di helpu trwy ffonio, llythyru, gosod posteri, gweithredu, neu os wyt ti eisiau gwybod mwy, cysyllta trwy ebostio mirain@cymdeithas.cymru neu steve@cymdeithas.cymru. A chofia ein dilyn ar Facebook neu Twitter!

Gellir hefyd cynorthwyo'r gwaith lleol trwy gyfrannu'n ariannol. Er eich bod eisoes, efallai, yn cyfrannu’n ganolog i’r Gymdeithas, bydd y gronfa benodol hon yn mynd yn uniongyrchol at waith y rhanbarth. Cysylltwch am fanylion y cyfrif banc. Bydd pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth. Diolch!

Digwyddiadau Morgannwg-Gwent