Hysbyseb Swydd: Swyddog Maes y Gogledd (dyddiad cau estynedig)

Swyddog Maes y Gogledd

Mewn cyfnod gwleidyddol cyffrous, dyma eich cyfle chi i wneud gwahaniaeth go iawn drwy weithio i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cewch roi eich brwdfrydedd a'ch sgiliau trefnu ar waith i alluogi ymgyrchoedd a fydd yn cryfhau'r Gymraeg a chymunedau yng ngogledd Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda’r nod o dynnu aelodau i mewn i’n hymgyrchoedd ac yn cynorthwyo swyddogion eraill i gyflawni’r nod hwn. Bydd yn gyfrifol am hybu ymgyrchoedd lleol y Gymdeithas, lledaenu ein neges a chynyddu aelodaeth ar hyd y rhanbarthau, gan annog aelodau i sefydlu a chynorthwyo celloedd lleol (sef canghennau lleol y mudiad) a grwpiau ymgyrch, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion.

Byddwch yn gweithio am gyfnod o ddwy flynedd o dan arweiniad Cadeiryddion y Rhanbarthau lleol a'r Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt y Cynulliad Cenedlaethol, gyda golwg ar ymestyn y cytundeb maes o law yn ddibynnol ar y sefyllfa ariannol. Bydd cyfnod prawf o chwe mis.

Y cyflog cychwynnol llawn amser fydd £20,000 y flwyddyn gyda chyfraniad ychwanegol gwerth 5% o’r cyflog ar gyfer cynllun pensiwn. Cynydda’r cyflog i £21,000 dros amser yn ddibynnol ar berfformiad boddhaol yn y swydd. Ar ddechrau’r swydd, bydd 25 diwrnod o wyliau’r flwyddyn yn ychwanegol at wyliau banc, gan gynyddu dros amser i 30 diwrnod y flwyddyn yn ddibynnol ar berfformiad boddhaol.

Croesawn geisiadau i weithio'n rhan amser neu'n llawn amser (37.5 awr yr wythnos). Croesawn geisiadau i weithio oriau hyblyg neu i rannu swydd yn ogystal. Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau ar gyfer rhai cyfarfodydd a digwyddiadau.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac rydym yn ymrwymedig at gydraddoldeb fel mudiad a chyflogwr. Rydym yn awyddus i ddenu ymgeiswyr o wahanol gefndiroedd a chaiff pob cais ei asesu’n deg.

Lleolir y swydd yn swyddfa’r Gymdeithas yng Nghaernarfon, ond ystyrir ceisiadau i weithio o gartref neu o leoliadau eraill yn y Gogledd.

Er mwyn gwneud cais, anfonwch lythyr a CV cyfredol, gan ddangos sut rydych yn cwrdd â gofynion a chyfrifoldebau’r swydd, ynghyd â’r ffurflen cydraddoldeb, at: post@cymdeithas.cymru; neu Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

Dyddiad cau: dydd Llun, 14eg Ionawr 2019

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01970 624501 neu e-bostiwch post@cymdeithas.cymru.

SWYDD-DDISGRIFIAD

Mae llwyddiant ymgyrchoedd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dibynnu ar weithgaredd ein haelodau ym mhob rhan o Gymru. Byddwch yn gyfrifol am ysbrydoli a hwyluso gweithgaredd gwirfoddol, annibynnol gan gelloedd a’r rhanbarth, gan sicrhau bod y frwydr dros ddyfodol y Gymraeg yn digwydd yn y Gogledd.

Mae’r hyn sy’n digwydd mewn un rhanbarth yn effeithio ar Gymru gyfan. Byddwch yn gyfrifol am hybu ymgyrchoedd lleol y Gymdeithas, gan sicrhau sylw’r wasg ranbarthol, a chenedlaethol, mewn cydweithrediad â'r swyddog cyfathrebu. Byddwch chi’n gyfrifol am ledaenu ein neges a chynyddu aelodaeth ar hyd y rhanbarth, gan annog aelodau i sefydlu a chynorthwyo celloedd lleol a grwpiau ymgyrch, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion.

Byddwch yn gyfrifol am dynnu ein haelodau lleol a'n cefnogwyr i mewn i ymgyrchoedd cenedlaethol mewn cydgysylltiad gyda'r Swyddog Cyfathrebu, ac am eu rhoi ar waith mewn ymgyrchoedd lleol. Bydd disgwyl i chi ymdrin â data'n ofalus yn unol â'r gyfraith diogelwch data gyfredol.

GOFYNION

  • Unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus;

  • Mae gallu gyrru, trwydded yrru ddilys, a defnydd car yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon;

  • Diddordeb byw ym mharhad yr iaith Gymraeg yn benodol, a gwybodaeth eang o faterion gwleidyddol yng Nghymru;

  • Llythrennedd cyfrifiadurol da;

  • Y gallu i gyfathrebu yn effeithiol gydag aelodau, y cyhoedd a’r wasg, ac i ysbrydoli gweithgaredd ar lefel unigol, cell a rhanbarth;

  • Y gallu a’r parodrwydd i weithio ar ei liwt ei hunan ac i gydlynu gweithgaredd Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth, gan gynnwys gwaith cyfathrebu, lobïo ac ymgyrchu uniongyrchol;

  • Parodrwydd i weithio a chydweithio mewn tîm o swyddogion maes eraill ar draws Cymru.

CYFRIFOLDEBAU MANWL

  • Datblygu trefniadaeth leol y Gymdeithas ar lefel celloedd a rhanbarth;

  • Hybu ymgyrchoedd canolog y Gymdeithas ar y lefel leol;

  • Hybu ymgyrchoedd rhanbarthol y Gymdeithas (e.e. mewn perthynas ag Awdurdod Lleol penodol);

  • Cynyddu aelodaeth a gweithgarwch y Gymdeithas yn yr ardal;

  • Codi arian;

  • Datblygu perthynas gyda mudiadau eraill er mwyn y Gymraeg;

  • Cydlynu a chynnal digwyddiadau, megis gweithdai, a chydweithio gyda gwirfoddolwyr, er mwyn i aelodau a chefnogwyr allu rhannu sgiliau ymgyrchu a'u huwchraddio gyda'r nod o sicrhau bod strwythurau a gallu ymgyrchu'r Gymdeithas yn fwy cynaliadwy ac nad ydynt yn dibynnu ar swyddogion cyflogedig;

  • Trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau, ralїau ayb;

  • Unrhyw anghenion rhesymol eraill gan Senedd y Gymdeithas.

OS YW’R GYMRAEG I FYW RHAID I BOPETH NEWID!

cymdeithas.cymru

@cymdeithas

facebook.com/cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac rydym yn ymrwymedig at gydraddoldeb fel mudiad a chyflogwr. Rydym yn awyddus i ddenu ymgeiswyr o wahanol gefndiroedd a chaiff pob cais ei asesu’n deg. Byddwn yn agored i geisiadau i weithio oriau hyblyg neu i rannu swydd.

[Cliciwch yma i agor y ffurflen cydraddoldebau fel .odt, fel pdf neu .docx]

[Cliciwch yma i agor y swydd-ddisgrifiad fel PDF]