Cyngor Gwynedd yn trafod treth ar ail dai

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod ymgynghoriad ar bremiwm treth cyngor ar ail dai a thai gweigion yfory (dydd Mawrth 27/09).

Bydd gan Awdurdod Lleol y gallu i godi hyd at 300% o dreth cyngor ar ail dai a thai gweigion o fis Ebrill 2023 ond ond er mwyn gwneud hynny bydd yn rhaid iddynt ymgynghori yn gyhoeddus a chael cymeradwyaeth y Cyngor Llawn erbyn mis Ionawr 2023.

Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni'n disgwyl i'r ymgynghoriad gael ei gymeradwyo - ac yn disgwyl i gynghorau sir ar draws Cymru fynd ati yn syth i ymgynghori ar y premiwm tai. Galwad ein rali ni yn Llangefni dros wythnos nol oedd i gynghorau ar draws Cymru ddefnyddio pob mesur o fewn eu gallu, yn llawn, i fynd i'r afael â phroblemau ail dai.
"Bydd y rhai sy'n elwa o ail dai ar draul ein cymunedau yn gwrthwynebu unrhyw dreth bellach ond gobeithio y gallwn ni ymddiried yn ein cynghorau i roi sicrwydd i'n cymunedau."

Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2019/20 er mwyn cael gwybodaeth am yr incwm a ddaeth o'r dreth cyngor uwch ar eiddo gwag a/neu ail gartrefi rhwng 2017 a 2019.
Cododd Cyngor Sir Benfro £5.84 miliwn, cododd Ynys Môn a Gwynedd a Phowys dros £4m yr un.

Ychwanegodd Jeff Smith:
"Fydd codi premiwm ar ail dai wrth ei hun ddim yn datrys problemau tai, ond mae'n amlwg yn gyfraniad pwysig - nid yn unig trwy leihau nifer yr ail dai ond trwy greu incwm ychwanegol all gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau lleol.
"Deddf Eiddo sydd ei hangen er mwyn mynd i'r afael â phroblemau tai sy'n effeithio cymunedau ar draws Cymru. Byddwn ni'n parhau i bwyso ar y Llywodraeth i gyflwyno Deddf Eiddo gyflawn yn ystod tymor y Senedd presennol."