Galw ar ymddiriedolwyr i beidio cau canolfan Tŷ’r Cymry yng Nghaerdydd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bechnogion Tŷ’r Cymry yng Nghaerdydd i beidio gwerthu’r tŷ, yn dilyn penderfyniad gan aelodau presennol pwyllgor yr ymddiriedolwyr i gau’r ganolfan Gymraeg a gwerthu’r adeilad.

 

Cafodd y tŷ yn ardal Cathays ei roi gan Mr Lewis Williams “i Gymry Caerdydd” ym 1936, ac mae wedi bod yn ganolfan o bwys yn hanes yr iaith yn y brifddinas ers dros wyth deg mlynedd. Mae tenantiaid yr adeilad wedi symud allan ar ôl cael gorchymyn i wneud hynny - sy’n cynnwys Cymdeithas yr Iaith, UCAC, Plaid Cymru a chylch meithrin Tŷ’r Cymry, sef y cylch meithrin cyntaf i’w sefydlu yng Nghaerdydd.

Meddai Bethan Ruth, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:

“Mae hanes pwysig i Dŷ’r Cymry yn adferiad yr iaith yng Nghaerdydd, a does dim rheswm i hynny ddod i ben. Rydyn ni’n deall bod cynnal adeilad fel hyn yn bwysau ar griw bach sydd heb newid ers tro byd. Ond nid gwerthu’r adeilad a chau’r ganolfan Gymraeg ydy’r ateb - yn hytrach, rydyn ni’n galw ar y perchnogion i basio’r cyfrifoldeb ymlaen i griw newydd fyddai’n gallu ailsefydlu’r lle fel canolfan Gymraeg gyfoes ar gyfer Caerdydd yr unfed ganrif ar hugain.

“Dydyn ni ddim yn galw am gadw pethau fel maen nhw wedi bod - mae pob math o bosibiliadau, ac mae’n amlwg bod angen datblygu’r ganolfan a buddsoddi ynddi. Rydyn ni’n sicr bod digon o bobl yng Nghaerdydd fyddai’n barod i gymryd yr awenau er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i Dŷ’r Cymry.

“Un o alwadau Cymdeithas yr Iaith ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesa yw creu mil o ofodau Cymraeg newydd ar hyd a lled y wlad - gan gydnabod pwysigrwydd gofodau cymdeithasol lle mae’r iaith yn cael ei defnyddio bob dydd. Mae angen datblygu Tŷ’r Cymry yn ofod cymdeithasol newydd ar gyfer yr iaith yng Nghaerdydd - yn sicr mi fyddai cau’r lle yn gam yn ôl i’r Gymraeg yn y brifddinas. Rydyn ni’n galw felly ar yr ymddiriedolwyr i basio’r cyfrifoldeb ymlaen i bobl eraill er mwyn sicrhau dyfodol y ganolfan.”