Cofiwch ymweld â stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Lleolir y Maes ar fferm Cilwendeg ger Boncath, Sir Benfro. Dyma ddigwyddiadau'r wythnos!
Helfa Drysor - helpu Leighton Andrews i ffeindio TAN 20
- 1pm, Dydd Llun 27ain o Fai - Stondin Cymdeithas yr Iaith
- Rydyn ni wedi bod yn disgwyl bron i ddwy flynedd am bolisi TAN20 ond does dim sôn amdano o hyd - dewch i helpu Cymdeithas yr Iaith i helpu Leighton Andrews i ddod o hyd iddo.
Noson Sianel 62
- 6pm, Nos Lun 27ain o Fai - Canolfan Adnoddau Cymunedol Hermon
- Dangos ffilmiau "Preseli" ac "Orange Martini Vienna" gan Nico Dafydd a deunydd Sianel 62
Byw yn Gymraeg ar ôl ysgol
- 1pm, Dydd Mercher 29ain o Fai - Stondin Cymdeithas yr Iaith
- Mae “Dyfodol yr iaith Gymraeg yn nwylo plant a phobl ifanc Cymru” meddai Carwyn Jones. Ond beth allwch chi wneud er mwyn byw yn Gymraeg ar ôl ysgol?
Camu ymlaen wedi’r Cyfrifiad - Dyfodol ein cymunedau Cymraeg
- 1.30pm, Dydd Iau 30ain o Fai - Stiwdio 2
- Prif siaradwraig: Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
- Trefnir gan Cynghrair Cymunedau Cymraeg
Deffro'r Radio Cymru - ymunwch â'r fflachdorf
- 1pm, Dydd Gwener 31ain o Fai - Stondin Cymdeithas yr Iaith
- Dewch i ysgwyd diwylliant Cymreig cyfoes yn rhydd o orthrwm darlledwyr Prydain Fawr, drwy ddawnsio gwerin yn steil yr Harlem Shake
Gig lansio albwm Mattoidz + Y Ffug
- 8pm, Nos Wener 31ain o Fai - Clwb Rygbi Crymych
- Cyflwynir gan Mafon a Chymdeithas yr Iaith.