2000 o dai ar Ynys Mon - pryder effaith iaith

Wrth ymateb i'r cais i adeiladau 2000 o dai ar Ynys Môn, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Os yw'r swyddi sydd yn ymwneud ag ynni niwclear ar gyfer pobl leol, pam bod angen tai ychwanegol ar gyfer y gweithwyr? Rydyn ni’n rhagweld y bydd canlyniadau’r Cyfrifiad yn cadarnhau bod sefyllfa'r iaith ar yr ynys yn dirywio yn gyflym iawn fel y mae; byddai'r datblygiad tai ychwanegol hwn yn ychwanegu at y dirywiad a fu. Mae'r cais hwn am gynifer o dai yn dangos mai effaith niweidiol iawn y byddai atomfa newydd yn ei gael ar y Gymraeg."