Croesawu newid cyfeiriad Llywodraeth Cymru ar Fil y Cwricwlwm

  Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gefnu ar eu cynlluniau i wneud Saesneg yn fandadol o 3 oed ymlaen ond yn galw ar y Llywodraeth i fynd ymhellach drwy ollwng Saesneg yn gyfangwbl o Fil y Cwricwlwm a chyflwyno addysg Gymraeg i bawb. 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o ymgynghori ar eu bwriad newydd o wneud Saenseg yn fandadol o 7 oed, sy’n cynrychioli “newid cyfeiriad cadarnhaol” gan mai eu bwriad gynt oedd gwneud Saesneg yn ddiofyn mewn ysgolion o 3 oed ymlaen, gydag ysgolion yn gorfod penderynu yn unigol i “optio mewn” neu beidio i addysg drochi Gymraeg.

 

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar y 4ydd o Ragfyr, ac rydym yn galw ar y Llywodraeth i fynd cam ymhellach yn eu cynlluniau a gollwng Saesneg yn gwfangwbl o wyneb y Bil. 

 

Dywedodd cadeirydd ein Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone:   

“Ry’n ni’n croesawu bwriad y Llywodraeth nawr i beidio gwneud Saesneg yn orfodol hyd at 7 oed, sy’n cynrychioli newid cyfeiriad cadanrhaol gan y bydd yn gwarchod yr arferiad o addysg drochi Cymraeg mewn ysgolion Cymraeg ac yn ei gwneud yn rhwyddach i ysgolion eraill i fabwysiadu’r arferiad hwn. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r diwedd gan y Llywodraeth o bwysigrwydd addysg drochi Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar ac yn gam i’r cyfeiriad cywir.

“Mae’r newid cyfeiriad hwn wedi digwydd o ganlyniad i ymgyrchu caled gan Gymdeithas yr Iaith ac eraill i warchod ac ehangu addysg Gymraeg yn ein hysgolion. 

“Mae nawr angen i’r Llywodraeth gymryd y cam rhesymegol nesaf a thynnu Saesneg yn gyfangwbl o’r Bil, gan nad oes unrhyw dystiolaeth yn cyfiawnhau ei gynnwys, ac nad oes unrhyw angen amdano beth bynnag gan fod Saesneg yn rhwym o gael ei dysgu yn ein hysgolion trwy’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu heb fod angen cynnig deddfwriaethol penodol. Mae’n bryd i’r Llywodraeth symud ymlaen o’r cynlluniau di-angen hyn a chanolbwyntio ar gyflwyno un llwybr dysgu’r Gymraeg go iawn yn y cwricwlwm newydd, er mwyn ehangu addysg Gymraeg ar draws ein hysgolion a galluogi pob plentyn i ddod yn rhugl yn yr iaith.”