02/12/2024 - 16:31
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, i fanteisio ar adolygiad presennol y Cod Trefniadaeth Ysgolion i roi arweiniad clir a dangos fod y Llywodraeth o ddifri am y polisi o ragdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig.
28/11/2024 - 11:57
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cynnig a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion ddydd Mawrth nesaf (3 Rhagfyr) i adalw’r penderfyniad i gynnal ymgynghoriad statudol ar gau pedair o ysgolion gwledig Cymraeg y sir.
20/11/2024 - 10:23
Mae Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru wedi gwadu bod swyddog Cyngor Ceredigion wedi derbyn sêl bendith gan y Llywodraeth wrth lunio cynigion i gau pedair o ysgolion gwledig Cymraeg y sir, yn groes i’r hyn ddywedodd cyn pleidlais allweddol y Cabinet ar y mater.
01/11/2024 - 11:16
Mae mwyafrif pobl Cymru yn credu y dylai pob plentyn adael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus ac mae cyfran sylweddol yn cefnogi troi pob ysgol yn un Cymraeg erbyn 2050, yn ôl canlyniadau arolwg barn newydd.