29/07/2025 - 12:22
Dim ond 0.2% o gynnydd sydd wedi bod yng nghanran y plant sydd mewn addysg Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigurau newydd sydd wedi’u rhyddhau gan Ystadegau Cymru. Roedd 20% yn cael adddysg Gymraeg ym mlwyddyn academaidd 2023/24, a 20.2% yn y flwyddyn 2024/25. Mae hyn yn brawf bod angen gwneud llawer mwy er mwyn rhoi’r Gymraeg i bob plentyn drwy’r system addysg ac er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
06/05/2025 - 19:09
Wedi i Senedd Cymru heddiw wrthod nifer o welliannau i Fil y Gymraeg ac Addysg, gan gynnwys gwelliant fyddai wedi cynnwys targed yn y Bil o ran faint o blant fydd yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050, mae perygl na fydd y Bil yn gwneud llawer mwy na pharhau â’r drefn fel ag y mae. Dywedodd Toni Schiavione, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
29/04/2025 - 16:00
Wythnos cyn trafodaeth hollbwysig yn y Senedd ar Fil y Gymraeg ac Addysg, rydyn ni wedi galw ar Aelodau’r Senedd o bob plaid i gefnogi gwelliant i’r Bil sydd wedi’i gyflwyno gan Cefin Campbell AS, a fyddai’n golygu gosod targed yn y Bil y bydd 50% o blant yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050.
13/04/2025 - 17:30
Mae pryder gyda ni y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu addysg Gymraeg yn methu heb dargedau cadarn fydd yn clymu llywodraethau’r dyfodol yn gyfreithiol i gyflawni ei nodau.