13/04/2025 - 17:30
Mae pryder gyda ni y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu addysg Gymraeg yn methu heb dargedau cadarn fydd yn clymu llywodraethau’r dyfodol yn gyfreithiol i gyflawni ei nodau.
19/02/2025 - 15:03
Mae'r pryderon am doriadau mewn prifysgolion ar draws y wlad ar hyn o bryd yn dangos bod rhaid newid system ariannu'r prifysgolion. Galwn ar y Llywodraeth i roi’r sector addysg uwch ar seiliau mwy cadarn gydag ariannu digonol, ac i ystyried gwerth am arian cyllido myfyrwyr i astudio tu allan i Gymru. Yn ystod 2023-24, gwariodd Llywodraeth Cymru £553,473,000 ar gostau byw a ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru sy'n dewis dilyn eu haddysg uwch y tu allan i Gymru. Meddai Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith:
15/02/2025 - 17:11
Mewn rali yn galw am “addysg Gymraeg i bawb”, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw i Fil y Gymraeg ac Addysg wneud mwy na chadarnhau mewn deddf y ddarpariaeth addysg Gymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd.  
13/02/2025 - 17:29
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu un o bwyllgorau’r Senedd am beidio mabwysiadu gwelliannau fyddai’n cryfhau cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer addysg Gymraeg.