29/05/2025 - 13:07
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhoi marc o 33 allan o 100 i ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Yn ôl y mudiad, mae’r ymateb yn cydnabod yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg ond nid yw’n cynnig gweledigaeth nac yn dangos ewyllys i weithredu. Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
21/05/2025 - 13:12
Ddeng mis ers cyhoeddi adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ymateb i’r argymhellion ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Margam, ar Ddydd Iau, 29 Mai - ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi gosod her iddyn nhw. Bydd y Gymdeithas yn marcio llwyddiant y Llywodraeth ar sail derbyn argymhellion a gweithredu arnynt yn gyflym, yn yr un ffordd ag y bydd disgyblion a myfyrwyr fydd ar y maes yn cael eu marcio ar eu llwyddiant addysgol. Yna, ceir sgôr terfynol i adlewyrchu ansawdd gwaith cartref y Llywodraeth.
29/03/2025 - 17:35
Cynhaliwyd rali Nid yw Cymru ar Werth yn Nefyn heddiw i bwysleisio bod angen gwneud mwy na rheoleiddio’r farchnad ail dai a thai gwyliau er mwyn mynd â’r afael ag argyfwng tai ein cymunedau Mae'n bwysig cydnabod gwaith Cyngor Tref Nefyn ac ymgyrch Hawl i Fyw Adra yn pwyso am rymoedd i reoli gormodedd ail gartrefi a llety gwyliau, ond bod problemau tai yn parhau ar draws Gwynedd ac felly mai rhan o’r broblem un unig yw ail dai a thai gwyliau.
26/03/2025 - 11:45
Byddwn ni'n cyhoeddi ffrynt newydd yn ei hymgyrch dai yn rali "Nid yw Cymru ar Werth" yn Nefyn y penwythnos hwn. Disgwylir i gannoedd ddod at y dref fach yng Ngwynedd am 1.30pm brynhawn Sadwrn ar gyfer rali yn dilyn gorymdaith trwy'r dref, ac am gyfarfod cyhoeddus lle bydd Antur Aelhaearn yn lansio Cynllun Tai Cymunedol.