01/10/2025 - 09:49
Bydd Siân Gwenllian AS yn cyflwyno gweledigaeth Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd fis Mai flwyddyn nesaf yn rali ddiweddaraf Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith fydd yn cael ei chynnal ym Methesa fis nesaf.  
24/09/2025 - 16:44
Rydyn ni'n datgan cefnogaeth i Gyngor Gwynedd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cynghorau sir sy’n awyddus i ddefnyddio pwerau Erthygl 4 er mwyn sicrhau tai i bobl yn eu cymunedau, yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys heddiw (24/09/25).
07/08/2025 - 09:08
Rydym fel tri mudiad iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n gadarn ac ar frys i warchod y cymunedau Cymraeg. Gan fod parhad a ffyniant yr iaith yn dibynnu ar y cymunedau hyn dylai cryfhau eu seiliau cymdeithasol-ieithyddol ac economaidd fod yn un o flaenoriaethau’r llywodraeth.
29/05/2025 - 13:07
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhoi marc o 33 allan o 100 i ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Yn ôl y mudiad, mae’r ymateb yn cydnabod yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg ond nid yw’n cynnig gweledigaeth nac yn dangos ewyllys i weithredu. Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: