03/04/2024 - 17:40
Ni fydd gweithredu radical i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru a diogelu cymunedau Cymraeg oni bai i bobl ddod mewn nifer mawr i Rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar Fai 4 i ddangos cryfder teimladau Mae pryderon ymysg ymgyrchwyr iaith nad yw’r Llywodraeth yn deall maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg, a na fydd polisïau digon blaengar i fynd at wraidd y broblem yn cael eu mabwysiadu.
20/03/2024 - 16:58
Mae Beth Winter AS a Mabon ap Gwynfor AoS wedi pwysleisio maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg wrth edrych ymlaen at rali ‘Deddf Eiddo - Dim Llai’ Cymdeithas yr Iaith ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai.
15/03/2024 - 11:59
Yn sgil datganiad syfrdanol gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros dai, nad yw marchnad tai y Deyrnas Unedig yn gweithio a bod trin eiddo fel buddsoddiad yn “wallgof”, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw arni i “wireddu ei rhethreg” trwy gyflwyno Deddf Eiddo.
04/03/2024 - 16:01
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gymryd camau brys er mwyn mynd i’r afael ag anghyfartaledd y farchnad dai agored yn yr ardal. Bydd cyfarfod Pwyllgor Cynllunio’r Awdurdod yn trafod cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Eryri gyfan ddydd Mercher (6 Mawrth).