Senedd Cymdeithas yr Iaith
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith y Gymdeithas.
Mae hawl gan unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith enwebu unrhyw aelod arall i wasanaethu fel aelod o'r Senedd. Gallwch ddarllen am gyfrifoldebau'r swyddogion gwahanol yma.
Bob hydref, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, etholir swyddogion a fydd yn gwasanaethu fel aelodau o'r Senedd am gyfnod o flwyddyn. Mae'r Swyddogion hyn yn gyfrifol am wahanol agweddau o waith y Gymdeithas. Caiff y Swyddogion sy'n gyfrifol am ranbarthau'r Gymdeithas eu hethol yng Nghyfarfodydd Blynyddol y rhanbarthau.
Dyddiadau cyfarfodydd 2021-22
Mae croeso i unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i gyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt, ond dim ond swyddogion etholedig a chyflogedig sydd â'r hawl i bleidleisio.
Mae pob cyfarfod yn canolbwyntio ar agwedd wahanol o waith y Gymdeithas (ymgyrchoedd, materion gweinyddol, rhanbarthau).
3/12/21 – Senedd Ymgyrchoedd
8/1/22 – Senedd Ranbarthau
5/2/22 – Senedd Weinyddol
5/3/22 – Senedd Ymgyrchoedd
2/4/22 – Senedd Ranbarthau (Penwythnos Preswyl)
7/5/22 – Senedd Weinyddol
11/6/22 – Senedd Ymgyrchoedd
9/7/22 – Senedd Ranbarthau
10/9/22 – Senedd Weinyddol
8/10/22 – Cyfarfod Cyffredinol
Aelodau'r Senedd 2021-22
Cadeirydd |
Mabli Siriol |
Cyfrifol am reoli'r Gymdeithas rhwng cyfarfodydd Senedd |
Is-gadeirydd Ymgyrchoedd |
i'w benodi |
Cyfrifol am sicrhau bod y Grwpiau Ymgyrchu'n weithredol |
Is-gadeirydd Cyfathrebu |
Tamsin Davies |
Cyfrifol am beiriant cyfathrebu'r Gymdeithas |
Is-gadeirydd Gweinyddol |
Mai Roberts |
Cyfrifol am weinyddiaeth y Gymdeithas |
Trysorydd |
Danny Grehan |
Cyfrifol am gyfrifon y Gymdeithas |
Swyddog Codi Arian |
Bethan Ruth |
Cyfrifol am strategaeth codi arian y Gymdeithas |
Swyddog Mentrau Masnachol |
Mirain Owen |
Cyfrifol am nwyddau a werthir gan y Gymdeithas |
Swyddog Adloniant |
i'w benodi |
Cyfrifol am gydlynu gwaith pwyllgorau adloniant yn genedlaethol |
Swyddog Aelodaeth |
i'w benodi |
Cyfrifol am ein hymgyrchoedd aelodaeth a'n system aelodaeth |
Swyddog y We |
Llinos Anwyl |
Cyfrifol am ein presenoldeb ar-lein |
Swyddog Dylunio |
Carwyn Hedd |
Trefnu gwaith dylunio'r Gymdeithas, gan gynnwys y Tafod |
Golygydd y Tafod |
Mared Llywelyn Williams |
Golygydd cylchgrawn y Gymdeithas |
Swyddog Dysgwyr |
i'w benodi |
Trefnu darpariaeth i bobl ddysgu'r iaith |
Swyddog Rhyngwladol |
Joseff Gnagbo |
Cadw llygaid ar ddatblygiadau polisi ac ymgyrchu ieithyddol o ran ieithoedd lleiafrifol; am wahodd ymgyrchwyr iaith i Gymru; am drefnu teithiau astudiaeth perthnasol i aelodau |
Cadeirydd y Grŵp Addysg |
Toni Schiavone |
Cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran ac arwain ar ymgyrchoedd addysg |
Is-gadeirydd y Grŵp Addysg |
Ifan Jones |
Cefnogi'r Cadeirydd, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy |
Jeff Smith |
Cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â thai, cynllunio a materion eraill sy'n effeithio ar gymunedau Cymraeg |
Is-gadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy |
Elin Hywel |
Cefnogi'r Cadeirydd, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd y Grŵp Dyfodol Digidol |
i'w benodi |
Cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â materion darlledu a phresenoldeb y Gymraeg arlein a materion eraill sy'n effeithio ar y Gymraeg yn y byd digidol |
Is-gadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol |
Mirain Owen |
Cefnogi'r Cadeirydd, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd y Grŵp Hawl i'r Gymraeg |
i'w benodi |
Cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith |
Is-gadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg |
i'w benodi |
Cefnogi'r Cadeirydd, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd y Grŵp Iechyd a Lles |
Gwerfyl Roberts |
Cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith o fewn y meysydd iechyd a lles |
Ynghyd â'r staff cyflogedig:
- Bethan Williams, Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol (cyfathrebu@cymdeithas.cymru)
- Swyddog Ymgyrchoedd (ymgyrch@cymdeithas.cymru) - I'W BENODI
- Carol Jenkins, Ysgrifennydd Cyffredinol (post@cymdeithas.cymru)
A'r swyddogion rhanbarthol:
- Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion, Jeff Smith (jeff@cymdeithas.cymru)
- Cyd-gadeiryddion Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Mirain Owen a Steve Blundell (mirain@cymdeithas.cymru; steve@cymdeithas.cymru)
- Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn – i'w gadarnhau
- Cadeirydd Rhanbarth Powys – i'w gadarnhau
- Cadeirydd Rhanbarth Caerfyrddin-Penfro – Sioned Elin (sioned@cymdeithas.cymru)
- Cadeirydd Rhanbarth Glyndŵr – i'w gadarnhau
Dogfennau perthnasol (cysylltwch os hoffech i ni anfon copi caled atoch trwy'r post):