Noson Gomedi a Gŵyl Ffilmiau yn rhan o arlwy adloniant Steddfod Dinbych 2013

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi manylion ynglŷn â’u harlwy adloniant yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych eleni.

Mae’r Gymdeithas wedi bod yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth Gymraeg yn ardal yr Eisteddfod ers degawdau, a bydd hynny’n parhau eleni eto ond wedi ei gyfuno ag amrywiaeth o ddigwyddiadau amgen yn ogystal. Dywedodd Gwion Schiavone ar ran y Pwyllgor sydd yn trefnu'r digwyddiadau.

Bwriad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod wythnos Steddfod Dinbych yw troi Top Dre Dinbych yn fwrlwm o ddigwyddiadau”.

Yn ogystal â'r gigs arferol byddwn yn cynnal Noson Gomedi ar y Nos Sul gyda rhai o gomediwyr gorau Cymru a Gŵyl Ffilmiau fawreddog sy’n dechrau Nos Lun, ac yn rhedeg trwy'r dydd Mawrth, mewn partneriaeth gyda Clwb Ffilmiau Dinbych. Rydym yn hynod o falch bod rhai o gomediwyr gorau Cymru wedi cytuno i ddod at eu gilydd ar gyfer Noson “Dathlu Chwerthin yn Gymraeg. Bydd yr amryddawn Tudur Owen yn arwain y noson a gyda Eilir Jones, Beth Angell, Dilwyn Morgan a John Sellars yn cymryd rhan hefyd rydym yn rhagweld y bydd y noson yma yn boblogaidd iawn."

Fodd bynnag, yn ganolog i’r arlwy mae’r gigs yn Nhafarn y Gild a fydd yn cychwyn nos Sadwrn Awst 3ydd gyda  'Parti Dathlu Byw yn Gymraeg.'  Y Bandana, a dyfarnwyd yn grŵp gorau’r flwyddyn gan cylchgrawn Y Selar, bydd prif grŵp y noson.

Bydd nifer o grwpiau yn chwarae trwy gydol yr wythnos yn Nhafarn Y Gild ac, o'r  Nos Fercher ymlaen yn Neuadd y Dre. Mae’r trefnwyr yn falch o gyhoeddi y bydd artistiaid sydd wedi bod yn driw i'r Gymdeithas dros nifer fawr o flynyddoedd fel Meic Stevens, Heather Jones, Geraint Lovgreen a Bryn Fôn yn ymddangos ochr yn ochr gydag artistiaid ifanc gorau Cymru fel Cowbois Rhos Botwnnog, Sen Segur, Georgia Ruth Williams, Y Niwl, Candelas a Sŵnami. Cyhoeddir y manylion yn llawn ymhen pythefnos (gweler yr atodiad am restr o fandiau).

Ychwanegodd Gerallt Lyall, un arall o'r trefnwyr,  sydd hefyd yn gweithio llawn amser gyda'r Fenter Iaith leol.

Byddwn hefyd yn sicrhau llwyfan ar gyfer bandiau ifanc yr ardal a thu hwnt. Mae'r bartneriaeth rhwng y gymdeithas a'r Fenter iaith wedi gweithio'n dda, ac rydym yn gobeithio y bydd gweithgareddau yn ystod wythnos y Steddfod yn arwain at sefydlu Dinbych fel canolfan ar gyfer gigs rheolaidd o hyn ymlaen.”

Dywedodd Dyfan Roberts ar ran y pwyllgor:

Mae'r egwyddor o gydweithio gyda mudiadau lleol i hyrwyddo'r dref fel canolfan i ymwelwyr i'r Steddfod yn holl-bwysig. Dyma un o drefi hanesyddol mwyaf ddiddorol Cymru. Mae cydweithrediad y Mudiad Ffermwyr Ifanc, a Clwb Ffilmiau Dinbych yn bwysig iawn i ni,”

Yn bersonol rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Noson Gomedi a'r ŵyl Ffilmiau lle bydd cyfle i weld ffilmiau archif a fydd o ddiddordeb i lawer iawn o steddfodwyr a phobl y dre. Bydd y ŵyl Ffilmiau yn rhad ac am ddim ac felly rydym yn gobeithio bydd hyn yn denu pobl y dre yn ogystal â steddfodwyr.”

Cyhoeddir manylion am docynnau o fewn ychydig wythnosau pryd y datgelir y rhestr cyflawn o artistiaid a digwyddiadau ynghyd â'r amserlen ar gyfer yr wythnos.