Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi manylion ynglŷn â’u harlwy adloniant yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych eleni.
Mae’r Gymdeithas wedi bod yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth Gymraeg yn ardal yr Eisteddfod ers degawdau, a bydd hynny’n parhau eleni eto ond wedi ei gyfuno ag amrywiaeth o ddigwyddiadau amgen yn ogystal. Dywedodd Gwion Schiavone ar ran y Pwyllgor sydd yn trefnu'r digwyddiadau.
“Bwriad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod wythnos Steddfod Dinbych yw troi Top Dre Dinbych yn fwrlwm o ddigwyddiadau”.
“Yn ogystal â'r gigs arferol byddwn yn cynnal Noson Gomedi ar y Nos Sul gyda rhai o gomediwyr gorau Cymru a Gŵyl Ffilmiau fawreddog sy’n dechrau Nos Lun, ac yn rhedeg trwy'r dydd Mawrth, mewn partneriaeth gyda Clwb Ffilmiau Dinbych. Rydym yn hynod o falch bod rhai o gomediwyr gorau Cymru wedi cytuno i ddod at eu gilydd ar gyfer Noson “Dathlu Chwerthin yn Gymraeg. Bydd yr amryddawn Tudur Owen yn arwain y noson a gyda Eilir Jones, Beth Angell, Dilwyn Morgan a John Sellars yn cymryd rhan hefyd rydym yn rhagweld y bydd y noson yma yn boblogaidd iawn."
Fodd bynnag, yn ganolog i’r arlwy mae’r gigs yn Nhafarn y Gild a fydd yn cychwyn nos Sadwrn Awst 3ydd gyda 'Parti Dathlu Byw yn Gymraeg.' Y Bandana, a dyfarnwyd yn grŵp gorau’r flwyddyn gan cylchgrawn Y Selar, bydd prif grŵp y noson.
Bydd nifer o grwpiau yn chwarae trwy gydol yr wythnos yn Nhafarn Y Gild ac, o'r Nos Fercher ymlaen yn Neuadd y Dre. Mae’r trefnwyr yn falch o gyhoeddi y bydd artistiaid sydd wedi bod yn driw i'r Gymdeithas dros nifer fawr o flynyddoedd fel Meic Stevens, Heather Jones, Geraint Lovgreen a Bryn Fôn yn ymddangos ochr yn ochr gydag artistiaid ifanc gorau Cymru fel Cowbois Rhos Botwnnog, Sen Segur, Georgia Ruth Williams, Y Niwl, Candelas a Sŵnami. Cyhoeddir y manylion yn llawn ymhen pythefnos (gweler yr atodiad am restr o fandiau).
Ychwanegodd Gerallt Lyall, un arall o'r trefnwyr, sydd hefyd yn gweithio llawn amser gyda'r Fenter Iaith leol.
“Byddwn hefyd yn sicrhau llwyfan ar gyfer bandiau ifanc yr ardal a thu hwnt. Mae'r bartneriaeth rhwng y gymdeithas a'r Fenter iaith wedi gweithio'n dda, ac rydym yn gobeithio y bydd gweithgareddau yn ystod wythnos y Steddfod yn arwain at sefydlu Dinbych fel canolfan ar gyfer gigs rheolaidd o hyn ymlaen.”
Dywedodd Dyfan Roberts ar ran y pwyllgor:
“Mae'r egwyddor o gydweithio gyda mudiadau lleol i hyrwyddo'r dref fel canolfan i ymwelwyr i'r Steddfod yn holl-bwysig. Dyma un o drefi hanesyddol mwyaf ddiddorol Cymru. Mae cydweithrediad y Mudiad Ffermwyr Ifanc, a Clwb Ffilmiau Dinbych yn bwysig iawn i ni,”
“Yn bersonol rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Noson Gomedi a'r ŵyl Ffilmiau lle bydd cyfle i weld ffilmiau archif a fydd o ddiddordeb i lawer iawn o steddfodwyr a phobl y dre. Bydd y ŵyl Ffilmiau yn rhad ac am ddim ac felly rydym yn gobeithio bydd hyn yn denu pobl y dre yn ogystal â steddfodwyr.”
Cyhoeddir manylion am docynnau o fewn ychydig wythnosau pryd y datgelir y rhestr cyflawn o artistiaid a digwyddiadau ynghyd â'r amserlen ar gyfer yr wythnos.