Taith gerdded (2 / 2.5 awr) o gwmpas canol Caerdydd yng nghwmni Dylan Foster Evans a Jon Gower.
Cwrdd tu allan i'r Hen Lyfrgell am 13.30, dydd Sadwrn, 22ain Hydref
Tocyn £8
Bydd cyfle i chi ddweud ffarwel wrth Carl Morris o 6pm ymlaen yn nhafarn Mochyn Du nos Fercher yma (5ed Hydref).
Mae Carl yn symud i Friste ac rydyn ni'n cynnal cyfarfod i ethol ei olynydd fel cadeirydd Cell Caerdydd yn ogystal â chael bwyd a diodydd i ddiolch iddo am ei waith caled yn ymgyrchu dros y Gymraeg yn y brifddinas.
Byddem yn falch iawn os gallwch chi ymuno â ni nos Fercher felly.
Tra bod Llywodraeth Cymru yn oedi, mae 80% o blant Cymru yn parhau i gael eu hamddifadu o'r Gymraeg. Ymunwch â ni mewn Gwylnos ar 27 Medi er mwyn galw am amserlen bendant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dileu Cymraeg ail iaith a sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, nid dim ond i'r 20% ffodus.
Bydd yn cychwyn am 6pm ymlaen, nos Fawrth 27ain Medi tan 10:30yb, dydd Mercher 28ain Medi - gwylnos ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd
(mae croeso i chi gysgu dros nos, neu ddod am gyfnod yn unig).
Bydd cyfarfod nesaf Cell Caerdydd yn y Mochyn Du ar nos Fercher y 14eg o fis Medi am 6:00yh. Bydd nifer o faterion i'w trafod o ymgyrchedd lleol i'r posibiliad o drefnu nosweithiau adloniant yn y ddinas. Croeso cynnes i bawb, edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
Bydd cyfarfod nesaf Celloedd Dwyrain Gwent yn digwydd ar nos lun y 10fed o Hydref am 6:30 yh yng ngwesty'r Parkway. Noder ni fydd cyfarfod yn mis Medi.
Croeso i bawb i'r cyfarfod - mae bethwmbreth i'w drafod!
Bydd cyfarfod nesaf Cell Caerdydd yn y Mochyn Du ar nos Fercher y 14eg o fis Medi am 6:00yh. Bydd nifer o faterion i'w trafod o ymgyrchedd lleol i'r posibiliad o drefnu nosweithiau adloniant yn y ddinas.
Croeso cynnes i bawb, edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus fydd yn gyfrifol am ysbrydoli a hwyluso gweithgaredd gwirfoddol, annibynnol gan gelloedd a rhanbarthau, gan sicrhau bod y frwydr dros gryfhau'r Gymraeg yn digwydd yn y de.