Morgannwg Gwent

Ymgyrchwyr iaith Māori ar daith yng Nghymru

Mae ymgyrchwyr a hyrwyddwyr yr iaith Māori o’r grwp Te Panekiretanga o te Reo (Ysgol am Ragoriaeth Iaith) o Aotearoa, Seland Newydd wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd heddiw (dydd Mawrth, 30ain Mai) fel rhan o’u taith i ymweld â chymunedau iaith bychain ar draws Ewrop.

Addysg cyfrwng Cymraeg i'r mwyafrif erbyn 2030 er mwyn cyrraedd y filiwn - ymchwil

Bydd rhaid i'r mwyafrif o blant gael eu haddysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef bod miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn canol y ganrif, yn ôl gwaith ymchwil mudiad iaith. 

Cyfarfod Cell Caerdydd

07/06/2017 - 19:00

 

Cynhelir cyfarfod nesaf Cell Caerdydd ar nos Fercher 7 Mehefin am 7 o’r gloch yn nhafarn y Cornwall, Trelluest (Grangetown).

 

Am ragor o wybodaeth - de@cymdeithas.cymru / 02920 486469

Iechyd meddwl a'r Gymraeg

02/06/2017 - 14:00

2yp, dydd Gwener, 2 Mehefin

Stondin Cymdeithas yr Iaith

Lansiad gwefan meddwl.org, trafodaeth ar iechyd meddwl dan ofal Amser i Newid Cymru, a darlleniad o’r gyfrol ‘Gyrru Drwy Storom.’

‘Amrywiaeth Ieithyddol - Un gwreiddyn dan y canghennau’

30/05/2017 - 14:00

2yp, dydd Mawrth 30ain Mai

Stondin Cymdeithas yr Iaith

Eisteddfod yr Urdd, Penybont

Siaradwyr a Pherfformwyr:

Timoti Karetu a’r grwp Te Panekiretanga o Te Reo

Gwilym Bowen Rhys

Aneirin Karadog

Cyrraedd y Miliwn trwy Gynllunio Addysg - Rhaid Rhoi’r Darnau yn eu Lle

29/05/2017 - 13:00

 

1yp, dydd Llun, 29ain Mai

Stondin Llywodraeth Cymru

Gyda Heledd Gwyndaf ac eraill

Cyfarfod Cell Caerdydd

09/05/2017 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesa Cell Caerdydd am 7pm, nos Fawrth 9fed Mai yn nhafarn y Cornwall, Stryd y Cornwall, Trelluest (Grangetown).

de@cymdeithas.cymru / 02920 486469

Hystings Etholiadau Lleol Caerdydd

26/04/2017 - 19:00

Cynhelir hystings etholiadau lleol gan Gell Caerdydd er mwyn craffu ar gynigion y pleidiau ar gyfer y Gymraeg a'r holl gymunedau yn y brifddinas:

7pm, nos Fercher, 26ain Ebrill

Clwb y Lyndon, Heol Clare, Trelluest (Grangetown), Caerdydd,

Cyng. Huw Thomas (Llafur),

Noson Cymdeithasol/Cyfarfod Trefnu Steddfod Urdd Penybont

04/04/2017 - 19:00

Ydych chi eisiau bod yn rhan o grwp trefnu ein digwyddiadau Steddfod Urdd Penybont? Dyn ni'n edrych am gefnogwyr lleol i helpu gyda syniada a threfniadau ar gyfer ein stondin 2017. Byddwn yn cwrdd yn Nhafarn y Coach, Penybont, am 7yh, nos Fawrth 4ydd Ebrill i drafod syniadau a chymdeithasu. Cysylltwch nawr os oes diddordeb!

Mae'r noson yma yn agored i bawb a chroesawn bobol newydd.