Canmol Cyngor Ceredigion ar fater ail gartrefi

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu bwriad Cyngor Ceredigion i weithredu ar yr argyfwng tai yn y sir. 

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddoe (21ain o Ionawr), gofynnodd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn, i bwyllgor craffu drafod cynnig ar y mater yn ei gyfarfod nesaf ac i adrodd yn ôl cyn cyfarfod nesaf y cabinet ym mis Chwefror.

Amlinellodd y Cynghorydd Mark Strong yr angen am weithredu ar y mater yn y cyfarfod ddoe, gan egluro mai’r sir sydd â’r ganran uchaf ond tri o dai gwyliau o blith holl siroedd Cyrmu (sef 5.91%), gyda’r ganran hon yn cynyddu i gymaint â 26% yn ward Cei Newydd. 

Galwodd y Cynghorydd Mark Strong, a baratodd gynnig ar y mater, ar Gyngor Ceredigion i:

  • “Ychwanegu’n llais i’r cynghorau sir eraill yng Nghymru sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru roi sylw brys i newid y ddeddfwriaeth gynllunio i gynnwys yr hawl i’n pwyllgorau rheoli datblygu reoli’r nifer o eiddo sy’n cael eu tynnu o’u stoc tai lleol a defnydd ymwelwyr achlysurol.”

  •  “Ymuno â siroedd eraill sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru roi grym i gynghorau sir i reoli ail dai drwy [roi rheolau mewn lle sy’n golygu bod rhaid cael] caniatad cynllunio i newid annedd i dŷ gwyliau.”

  • “Gofyn i Lywodraeth Cymru alluogi i gynghorau sir gyflwyno trothwy o gyfanwswm o dai gwyliau fesul ward.”

  •  “Gofyn i Lywodraeth Cymru rwystro perchnogion rhag newid ail-gartrefi i fusnesau er mwyn osgoi talu treth cyngor.”

Ymatebodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, drwy ddatgan ei bod yn cefnogi Mark [Strong] 100%” gan gyfeirio at drafodaethau tebyg gan gynghorau sir Gwynedd a Chaerfyrddin. Galwodd arweinydd y cyngor ar i’r cynnig gael ei drafod gan un o bwyllgorau craffu’r Cyngor, ac i’r Cyngor cyfan drafod a phasio’r cynnig yn dilyn hyn.

Dywedodd is-gadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, Jeff Smith:

“Fe fuodd swyddogion Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio’n galed iawn dros gyfnod y Nadolig yn ymchwilio mewn i’r gwahanol ffyrdd y gellir datrys yr argyfwng tai yn y sir. Mae ail gartrefi yn broblem anferth yng Ngheredigion ac mae’n braf gweld bod y Cyngor yn bwriadu gweithredu. Mae’n braf gweld hefyd bod ewyllys gwleidyddol yn bodoli ac yn deillio o arweinyddiaeth y Cyngor, gyda’i arweinydd Ellen ap Gwynn yn ei gwneud yn glir yng nghyfarfod diweddaraf y Cyngor fod angen gweithredu ar y mater hwn. Mae angen nawr i Bwyllgor Cymunedau Ffyniannus y Cyngor drafod y cynnig cyn cyfarfod nesa’r Cabinet ym mis Chwefror.”

“Mae’r argyfwng yn broblem genedlaethol. Fel rhan o’n dogfen weledigaeth ar gyfer yr etholiad, ‘Mwy Na Miliwn’, rydyn ni’n cynnig amryw o bolisïau posib y gellid eu gweithredu i ddatrys y broblem. Mae angen cyflwyno Deddf Eiddo fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai i sicrhau cartrefi lleol i bawb. Mae angen hefyd i’r Llywodraeth nesaf osod cap ar ganran yr ail gartrefi sydd mewn cymuned, rheoli prisiau rhent fel eu bod yn fforddiadwy i bobl sydd ar gyflogau lleol a gosod uwch-dreth ar elw landlordiaid i fuddsoddi mewn dod â thai gweigion ac ail gartrefi yn ôl i ddefnydd cymunedau. 

“Nawr yw’r amser i bob plaid ymrwymo i gyflwyno Deddf Eiddo yn y Senedd nesaf a phenderfynu am unwaith i flaenoriaethu cymunedau, nid cyfalafiaeth.”