09/04/2025 - 12:00
Cynhelir cyfarfod nesa'r Grŵp Addysg dros Zoom am ganol dydd, dydd Mercher, 9 Ebrill.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod materion sy'n ymwneud â phob sector o'r byd addysg, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp. Ac os nad ydych chi'n siwr, dewch i'r cyfarfod er mwyn gweld beth yw beth!
Y prif fater dan drafodaeth ar hyn o bryd yw'r ymgyrch ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg i bawb.
Cysylltwch i ymuno neu os am wybodaeth ychwanegol.