12/02/2025 - 19:00
Cynhelir cyfarfod nesa'r Grŵp Addysg dros Zoom am 7.00, nos Fercher, 12 Chwefror 2025.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod materion sy'n ymwneud â phob sector o'r byd addysg, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp. Ac os nad ydych chi'n siwr, dewch i'r cyfarfod er mwyn gweld beth yw beth!
Y prif fater dan drafodaeth ar hyn o bryd yw'r ymgyrch ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg i bawb, gan gynnwys y Rali dros Addysg Gymraeg i Bawb ar ddydd Sadwrn, 15 Chwefror.
Cysylltwch i ymuno neu os am wybodaeth ychwanegol.