29/03/2025 - 15:00
3.00, pnawn Sadwrn, 29 Mawrth
Gwesty Nanhoron, Nefyn (LL53 6EA)
Yn dilyn Rali Nid yw Cymru ar Werth, cynhelir cyfarfod cyhoeddus dan gadeiryddiaeth Elin Hywel. Bydd:
- Llŷr ap Rhisiart ar ran Antur Aelhaearn yn cyflwyno gwybodaeth am dai dan berchnogaeth y gymuned a phecyn mae antur Aelhaearn wedi ei greu i roi arweiniad i gymunedau eraill
- Siân Parri yn siarad am Perthyn Penllyn a'r angen am Bolisi Gosod Tai i hyrwyddo’r Gymraeg
- Haydn Williams ar ran Cymunedoli yn sôn yn ehangach am gyfraniad mentrau cymunedol i'r economi lleol.
Yn dilyn hynny bydd trafodaeth agored a chyfle i bawb gyfrannu.
Dewch i gefnogi ac i fynegi barn!