10/04/2024 - 18:30
Cynhelir cyfarfod o'r Grŵp Cymunedau Cynaliadwy dros Zoom am 6.30, nos Fercher, 10 Ebrill.
Mae croeso mawr i aelodau'r Gymdeithas ymuno â'r grŵp hwn felly os oes gennych ddiddordeb yn y maes, beth am ddod i un o'r cyfarfodydd i weld beth yw beth. Un o'r prif bethau byddwn ni'n ei drafod yw cynllunio camau'r ymgyrch am Deddf Eiddo rhwng Rali Nid yw Cymru ar Werth Blaenau Ffestiniog (4 Mai) a Rali Nid yw Cymru ar Werth Machynlleth (14 Medi).
Am ragor o wybodaeth neu ddolen i ymuno cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru / post@cymdeithas.cymru